Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yng ngwaed Cymro yr oes hon, ond y mae'n sicr fod y Cymry wedi etifeddu cariad y ddwy gainc at ymddangosiad golygus a glân; ac wrth ddarllen barddoniaeth y genedl o'r amser boreuaf, canfyddwn fod y bardd yn rhoi sylw neillduol i'r llygad yn ei ddarlun o dlysni, ac hyd heddyw y mae cryn lawer o'r llygad glâs" yng nghaneuon serch y wlad. Ceir yn llenyddiaeth henaf y byd gryn sylw'n gael ei wneud o'r gwallt,' a hwnw gan mwyaf yn "grych," pan yn disgrifio prydferthwch, a dichon nad oes ystyr neillduol i'r cyplysiad Cymreig o lygad a gwallt' fel dau anhebgor tlysni, ond bid a fynno, dyna'r ddwy elfen amlycaf yn narlun y bardd Cymreig o dlysni mun. A phwy a feddai ddau lygad cyffelyb i Hwfa Môn Ac os nad oedd ei wallt yn droellog, yr oedd yn fwyn a hirllaes, ac yn disgyn ar yr ysgwydd fel edau o bali gwyn. Credaf nad oedd Cymro'n fyw a feddai wyneb mor gyfrin—dlws a Hwfa Môn. Ceid haen o harddwch drosto 'i gyd, ac yr oedd rhyw fwynder rhyfedd ar ei rudd, a chyfriniaeth bell yn ei lygad. Son am lygaid ! Gan bwy y bu eu bath? Yr oeddynt fel dwy ffenestr dlos o'r rhai y syllai personoliaeth orchfygol—yn awgrymu cyfriniaeth, urddas a chariad, i'n holl natur. Welais i erioed lygaid mor fynegiadol â'i rai ef. Mae'n gof gennyf eu gweled fel ffynhonnau o ddagrau, ac hefyd yn loywon gan fellt, ac erys eu trem ger fy mron byth. Yr oedd llygaid mor fychain mewn wyneb llyfndeg, braf, a chorff mor dywysogaidd yn fynegiadol dros ben. Gosodwyd ef, gan genedl gyfan, drwy ryw gydsyniad greddfol, yn olyniaeth y derwyddon, a gallwn feddwl am dano yn trin y cryman aur ac yn tori'r uchelwydd yn deilwng o offeiriad y cynfyd. Diau i bersonoliaeth Hwfa Môn wneuthur llawer i wisgo seremonïau'r orsedd ag urddas a gwedduster, ac od oedd ambell ddefod yn wrthun yng nghyfrif rhai, yr oedd ymddangosiad yr archdderwydd yn dlws anniflan. Cwynir fod estron bethau yn ymgrynhoi o gwmpas yr Eisteddfod, ond hyd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd wyneb a bloedd Hwfa Môn yn ddigon i argyhoeddi'r bobl, mai Cymraes oedd yr hen wyl, ar waethaf popeth. Pan aeth ef i gadw noswyl collodd yr orsedd ei cholofn gadarnaf, a'r llwyfan Gymreig yr wyneb harddaf a welodd erioed.