Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Howell Elvet Lewis (Elfed)
ar Wicipedia





Pennod II

FEL BARDD, YM MESURAU'R GYNGHANEDD.

GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A., LLUNDAIN.

MEGIS y mae un darlun yn ennill sylw a magu hyf rydwch fel cyfan waith urddasol, ac un arall trwy amryw swynion ar wahân geir ynddo, un, dyweder, yn ddarlun mawreddogo fynydd llydansail, talgryf, a'r llall yn rhoddi cipolwg hudolus ar lain o wyrddfor rhwng hollt yn y bryniau,—felly hefyd gyda gwaith y bardd. Y mae un yn cyffroi'r galon trwy swyn amryw awgrymiadau na wyr neb pa mor bell y cyrhaeddant; a'r llall yn agos atom, yn dangos y cyfan yn fanwl ac yn glir, heb fawr o awgrymiadau pell. Y mae'r meddwl unochrog yn cael ei demtio i farnu nas gall y ddau fod yn feirdd: ac er mwyn dyrchafu un, rhaid iddo gael dibrisio'r llall. Ond y mae lle a gweinidogaeth i'r ddau: a gellir, trwy ddiwylliant, feithrin