Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cán dyner, ddwys, yw ei gân ar "Einioes Dyn" (I. tud. 44—5); a "Bryneiriol yn Ddu" (I. tud. 138—141). Ac wele gân brydferth o'i eiddo ar "Y Lili Wen":—

Y Lili Wen, oleuliw wawr,
A dyf yn ngardd y Palas mawr;
Y Lili Wen, mewn awyr iach,
A dyf yn ngardd y bwthyn bach.

Y Lili Wen, o blith y drain,
A wêna ar y dduwies gain;
Y Lili Wen, lon eilun ffawd,
A wêna ar y weddw dlawd.

Y Lili Wen, dan goron wlith,
Anwylir gan y blodyn brith,—
Y rhosyn gwyn, a'r rhosyn och,
A wylant am gusanu'i boch.

Y Lili Wen, a'i nefawl swyn,
A huda angel at y llwyn;
A rhed angyles hyd yr ardd
I'w rhoi ar fron ei cherub hardd!
(I. tud. 73.)

Sylwer ar symlrwydd a chartrefolrwydd y dyfynniad hwn o'i "Fwthyn ar lan yr Afon":—

Y tad a'r fam eisteddent
Yn siriol wrth y tân;
A'r plantos bach chwareuent
Oddeutu'r aelwyd lân;
Y moethus gi orweddai
I gael mwynhau ei hun—
Er mwyn i'r ferch anwylaidd
'Gael yno dynui lun

Y Bibl mawr teuluaidd
Estynid ar y bwrdd;
Er cadw y ddyledswydd
Prysurai pawb i'r cwrdd:
Ac wedi cânu penill
Oedd beraidd iawn ei flas,
Cydblygai pawb yn wylaidd
I gyfarch gorsedd gras.
(II. tud. 35—6.)

Hapus iawn hefyd, yn y llinnell hon, yw ei Efelychiad o "Village Blacksmith" Longfellow (I. tud. 384).

Ond ei brif orchest yn y Mesur Rhydd yw ei Arwrgerdd ar "Owen Glyndwr," a enillodd iddo y wobr yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867,—cerdd uwchlaw tair mil o linellau. Cerdd hanesyddol ydyw o ran ei chynllun; ond cerdd hynod o effro a chyffrous ei disgrifiadaeth : mae'r swn arwol yn cerdded yn rymus trwyddi; ac mewn llawer i adran, gwelir gallu disgrifiadol Hwfa Môn ar ei oreu—ac nid dweyd bach yw hynny. Peth sydd wedi'm taraw wrth ei darllen, yw llyfnder ei mydryddiaeth, a meistrolaeth amlwg yr awdwr ar y mesur: ni cheir