nemawr i linnell afrwydd ei symudiad yng nghorph yr holl gerdd, yr hyn a brawf fod Hwfa Môn yn meddu clust dda: mewn gair, yr oedd canu yn ei ysbryd. Hwyrach y gellir ewynaw peth o herwydd tra— mynychiad yr un figyrrau; ond nid yw hyn i'w deimlo ond i raddau cymharol fychan. Credaf fod Owen Glyndwr yn destyn wrth fodd calon yr awdwr; canys, pa beth bynnag ydoedd Hwfa Môn, credaf nad oes neb a wâd iddo y cymeriad o Wron—addolwr; ac y mae'n rhaid wrth fardd felly i gânu Arwrgerdd dda. Nid rhyfedd, ynte, i Hwfa lwyddo ar destyn fel "Owen Glyndwr." Ni chaniatâ'r terfynnau i mi ddyfynnu nemawr o'r gerdd hon. Goddefer ychydig linellau:—
Delweddau ei henafiaid welir ar
Ei ysgogiadau yn y gwaedlyd faes;
Yn ei arwrol ddull, dyrchafai drem.
A diysgogrwydd cawr yn llenwi'i bryd!
O dan ei gamrau trymion, siglai'r llawr—
Ac wrth ei sangiad cadarn, tyrfai'r graig ;
A'i dolystainiad cryf arwyddai fod
Y GWRON synai fyd, yn sathru'i gwar.
Ei dywysogol ddull amlygai rym
Y meddylfrydau oedd fel tònawg för
Yn ymgynhyrfu yn ei galon fawr!
Ei dalcen llydan oedd fel marmor gwyn
Yn ymddisgleirio dan belydriad haul;
A'i lygaid creiffion fel ffwrnesiau tân,
O angerddoldeb ei feddylfryd eryf;
Ei wallt chwareuai tros ei dalsyth gefn
Fel godrau cwmwl du ar war ystorm!
A'i drwyn bwäog oedd yn dangos nerth
Ei benderfyniad mewn tymhestloedd blwng;
Delweddau'i ysbryd i'w wynebpryd llawn
A ymgyfodent, fel y cyfyd gwrid
Trwy wyneb eang wybr o wres yr haul!
Ei bendefigol drem fawreddog oedd
Fel gwyneb y ffurfafen, cyn i'r storm
Ymdori yn ei nherth, gan siglo'r nen,
Ac ysgwyd hyd eu gwraidd sylfaeni'r byd!
Ei eiriau oeddynt fel y daran groch,
Yn tori trwy y nen mewn llif o dân;
A thrwy ei ruol lais dychrynai myrdd,
Ac yn ei wyddfod gwelwai cryfion byd!
(I. tud. 249—250)
Yn ei gân "Yr Adfeiliad," ceir llai o ddychymyg—y mae cysgod ei henaint arni, a mwy o ffeithiau celyd bywyd ynddi; eto teimlir ei bod yn llawn o'r dwyster hwnnw sy'n