Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enillodd y gadair; yn Eisteddfod y Ddol Goch yn 1329, Shon Cent enillodd y gadair; yn Eisteddfod Powys 1330, Madog ap Gruffydd enillodd y gadair. Dyna'r tair fwyaf a phwysicaf a gynhaliwyd yn ein gwlad am lawer o amser, a gwelir fod yr hwn a elwir yn aml yn brif fardd y genedl yn ymgeisydd a buddugwr yn y fiaenaf. Pan ddeuwn i Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1451, gwelir fod yno wyr fel Dafydd Nanmor a Llawdden a Dafydd ab Edmwnt yn cymeryd rhan flaenllaw ac yn cael eu dyfarnu yn oreuon y gwahanol gystadleuaethau. Drachefn pan eir i mewn i Eisteddfod Caerwys yn 1524, y mae 'r bardd ardderchog Tudur Aled yn ben gwr yn y sefydliad ac yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1568 y mae'r marwnadwr digymar William Lleyn yn amlwg yno wedyn. Ni chynhaliwyd yr un Eisteddfod o bwys mawr ar ol hon, nes y caed un Caerfyrddin yn 1819: ac yr oedd Gwallter Mechain a Robert ap Gwilym Ddu yn gystadleuwyr ynddi: ac o'r adeg honno hyd ein. dyddiau ni y mae pob bardd o nod a fagwyd yn ein gwlad wedi bod rywfodd neu gilydd ynglyn a'r sefydliad cenedlaethol. Cafodd rhai o honynt eu siomi yn dost, fel Dewi Wyn o Eifion er hynny i gyd cadwodd y mwyafrif eu cyssylltiad a'r Eisteddfod yn hir iawn.

Pan ddaeth Hwfa Mon i mewn i'r Cylch, yr oedd yr Eisteddfod yn bur wahanol i'r hyn yw yn awr. Nid oedd ei chymeriad yn hollol mor lan cynhelid hi fel rheol mewn pebyll neu yn un o gestyll ein gwlad fel yn Miwmaris a Rhuddlan a Chaernarfon: ond yr oedd llawer o lygredd y gyfeddach ynglyn â hi. Ciliai gweinidogion o ystefyll y beirdd yn aml o herwydd yr yfed a'r maswedd a'r malldod oedd yno. Hefyd cynhelid dawnsfeydd rhodresgar a gwleddoedd. mawrion yn yr hwyr, yn lle'r Cyngerdd a drefnir yn bresenol. Yr oedd cymaint o Saeson yn cael lle a sylw y pryd hwnw ymron ag yn awr; eithr yr oedd tôn wahanol i'r Eisteddfod: mwy o le i lenyddiaeth bur, llai o lawer o swn canu ag eithrio'r delyn, ac anfynych yr oedd yno ymgiprys corawl yn creu dadwrdd difudd. Ceid beirdd goreu y genedl yn parhau yn gystadleuwyr hyd eu bedd hefyd, fel Eben Fardd yn Nghaernarfon ychydig wythnosau cyn iddo farw; a bychan