Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn oedd cylch y Cadeirfeirdd Cenedlaethol. Rhyw bump neu chwech oeddynt i gyd.—Caledfryn, Emrys, Nicander, Eben Fardd, Hiraethog a Gwalchmai. Yr oll yn troi o gylch y cewri hyn, a'r naill yn beirniadu'r llall yn ddidor, a chryn chwerwder yn eu plith, a drwgdybiaeth eithafol.

Dywedir mai tipyn yn oeraidd oedd y derbyniad roed i Hwfa Mon pan fentrodd gyntaf i ymyl y Cylch; ond profodd yn gynar y gallai sefyll yn gyfochrog â meistri yr Eisteddfod. Gwelodd gladdu yr hen wroniaid bob un. Safodd yntau ar y "Maen Llog" yn batriarch oedranus, a'r genedl gyfan wrth ei draed; ac ysgol newydd o feirdd ymhob ystyr, yn ymwyleiddio o'i flaen ac yn talu gwarogaeth urddasol iddo: heb gymaint ag un o honynt yn meddu golwg mor frenhinol ag efe. Ymhob ystyr y mae pethau wedi newid: nid oes ond ychydig o'r arferion Eisteddfodol gynt yn aros yn awr.

Yr oedd y bardd buddugol yn arfer darllen ei awdl i gynulleidfa fawr y diwrnod yr enillai,—gwnaeth Hiraethog hynny yn Eisteddfod Madog yn 1851. Y peth agosaf i hynny geid yn ddiweddar oedd Hwfa Mon yn darllen neu adrodd ei Fer—Awdl ar lwyfan yr Eisteddfod, ac y mae hynny wedi darfod bellach.

Yr oedd gwrando mawr a manwl ar holl feirniadaethau llenyddol y dyddiau gynt: ac yn wir dyna oedd gwledd benaf yr wyl,—clywed Caledfryn neu Eben Fardd yn darllen ei sylwadau ar y cynyrchion: eithr nid oes gan y cynulliad amynedd i hynny erbyn hyn, oddieithr i'r beirniad fod yn blingo a gwawdio y cystadleuwyr wrth ei swydd, a'r dorf yn gwybod mai felly y bydd pan gyfyd ar ei draed,—rhoddir rhyw fath o wrandawiad iddo felly.

Yr oedd mwy o naws y wlad ar y sefydliad hefyd ac yspryd gwerinol iachach. Yr holl bobl yn edrych i fyny at arweinwyr y sefydliad gyda pharch digymysg, a bardd yn gyfystyr a phroffwyd i'r genedl. Syndod y warogaeth a delid i Eben ac Emrys a Gwallter Mechain a Ieuan Glan Geirionydd.

Fodd bynag ofer achwyn. Gwelodd Hwfa y cwbl a thyfodd