Eisteddfod Birkenhead am ei awdl ar "Ragluniaeth." Fel hyn, heb son am gystadleuaethau eraill yr oedd Hwfa Mon ar y maes o hyd ac yn llwyddo mewn gornest ar ol gornest. Difyr a phrudd yw deall fod ganddo awdl ymron yn barod i'w hanfon i gystadleuaeth am Gadair Utica, America ar "Yr Ewyllys" pan fu efe farw.-" The ruling passion strong in death."
III.
Marw o un i un wnai yr hen feirniaid enwog fu yn dal y dafol lenyddol yn ein gwlad. Rhoddid y lle blaenaf yn y ganrif ddiweddaf i' Wallter Mechain. Efe meddir oedd "Lord Chief Justice" y cylch barddol. Yr oedd yn graff ac yn ddyn hyddysg iawn yn llen y cenhedloedd clasurol.
Gerllaw iddo rhoddid Caledfryn. Y mwyaf llym a didrugaredd fu ar fainc yr Eisteddfod; ond yr oedd gan bawb ffydd gref ynddo yntau, a gwnaeth ei waith gyda didwylledd noeth. Ei unig fai oedd fod y cledd yn ei law bob amser pan safai yn ymyl y clorian. Eben Fardd ddwys a thyner oedd un arall o brif feirniaid ein cenedl, heb neb na dim allai fyth ei berswadio i wyro barn.
Dangos y perl oedd yn y cyfansoddiad wnai Eben, a dangos y llaid oedd o gylch y perl wnai Caledfryn, meddir. Syrthio i'r bedd, y naill, ar ol y llall yr oeddynt, a rhaid oedd cael eraill i'r adwyon. Bu cyfnod pan ddodid gwyr i feirniadu nad oeddynt wedi gwneyd fawr o'u hol fel cystadleuwyr eu hunain; ond newidiodd pethau yn raddol, a hawliwyd i feirniad fod yn fardd cydnabyddedig, o'r diwedd. Daeth cyfle Hwfa Mon felly; ac am lawer o flynyddau bu yn un o ynadon yr Eisteddfod. Nis gwyddom yn hollol pa bryd y cymerodd ei le ar y fainc; ond yr oedd wedi ymgadarnhau ddigon arni erbyn y flwyddyn 1865 fel ag i fod yn un o'r beirniaid ar yr Arwrgerdd yn Aberystwyth, pan enillodd Llew Llwyfo gyda'i gerdd ar "Ddafydd ": ac o hyn ymlaen beirniadu a chystadlu bob yn ail y bu am gryn dymor. Buasai rhestr o'r Eisteddfodau mawr a bach y bu Hwfa Mon yn dal y clorianau ynddynt, ac enwau ei