Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gydfeirniaid yn ddyddorol iawn; ond gan nas gallwn roi y rhestr yn weddol gyflawn gwell yw peidio gwneyd llawer o ymgais. Yn unig dywedwn ei fod yn un o'r rhai fu'n penderfynu tynged y bardd yn Eisteddfod fawr Chicago yn 1893: ac aeth cynyrchion gwyr fel Gwilym Eryri a Thudno a Watcyn Wyn a Gurnos, a Llew Llwyfo a Cheulanydd, drwy ei ddwylo heb son am fwyafrif y Cadeirfeirdd sydd yn fyw. Galwyd ef mewn rhai engreifftiau i dorri dadl fel canolwr, megis yn y Rhyl yn 1892, ac ni chlywsom fod llawer o ddadleuon gwedi barn yn dilyn ei ddyfarniadau. Rhan pob beirniad Eisteddfodol yn ein gwlad ymron yw cael ei amheu a'i ddifrio gan rai heb ddysgu colli, ac nid yw wythnosau o feirniadu'r beirniaid namyn defod lenyddol gyson yn Nghymru bob blwyddyn. Efallai i Hwfa ddiane cystal a neb rhag y penyd a'r blinfyd hwn. Yr oedd yn bur gymeradwy fel beirniad oherwydd, yn un peth, ei fedr i draddodi yn hyglyw ei ddyfarniad ar ddydd yr wyl. Nid oedd ei debyg am hyn: ei barabl pert, croyw a difyrus: ei ddull o adrodd darnau o'r awdl neu'r cywydd, yn gorfodi pawb am y munyd hwnw i dyngu ei fod yn gweld ac yn deall cynghanedd cystal a Hwfa ei hun gan mor glir y dodai efe hi allan, ac mor uchel oedd clec pob cydsain rhwng ei wefusau teneuon; ac yn anad dim, ei lais mawr yn torri dros y cynulliad i gonglau eithaf y neuadd Eisteddfodol. Yr oedd codiad ei law weithiau, ei edrychiad dieithr, a'i holl ymroad gyda'r feirniadaeth yn gwneyd ei thraddodi ganddo yn un o brif ddigwyddiadau'r wythnos.

Chwarddai'r dorf yn braf, gan gyfranogi o hwyl Hwfa ei hun; a mwynheid yr holl helynt yn fwy o lawer oherwydd ei fod ef gyda'r gorchwyl. Prin y gellid dweyd ei fod yn ysgrifenu beirniadaeth oedd yn dangos craffter mawr yn ei helfeniad o'r cyfansoddiadau, a'i dull o chwalu a chwilio allan werth yr awdlau, yn ol safonau beirniadaeth lenyddol. Yr oedd Canons of criticism yn bethau allan o lwybr Hwfa Mon i raddau pell. Yn ol ei reddf ei hun y deuai o hyd i deilyngdod y cynyrchion, a dotio at ddarnau ohonynt a wnai efe yn hytrach na chymeryd cyfanwaith i ystyriaeth. Eithr, fel y