Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywedasom eisioes, yr oedd ei wrando a'i wylio yn cyhoeddi 'r feirniadaeth oedd ganddo i'w rhoi, yn dweyd ei fod yn gymeriad Eisteddfodol hollol ar ei ben ei hun.

IV.

Mawr yw'r dwndwr wedi bod yn ddiweddar ynglyn a Gorsedd y Beirdd. Credid yn ddiysgog gan lu o'r hen Eisteddfodwyr fod yr Orsedd wedi disgyn yn ddifwlch o oes y Derwyddon hyd ein dyddiau ni, ac yr oedd parch diffuant yn cael ei hawlio i'w hurddau a'i defodau. Mae erthyglau a gyhoeddwyd rhyw ddeng mlynedd yn ol yn un o brif gylchgronau y wlad wedi chwalu 'r traddodiadau fel peiswyn. Ofer ceisio adeiladu ar sail mor ansicr mwy. Er hynny dangosir fod yr Orsedd ynglyn a'r Eisteddfod ers yn agos i ganrif. Dywedir mai ynglyn ag Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf erioed fel y mae yn aur: ac nid oes son am Orsedd yn hanes yr Eisteddfodau gynhaliwyd yn Aberhonddu yn 1822 ac yn Nhrallwm yn 1824: nac yn Ninbych yn 1828 a Biwmaris yn 1832. Ceisiodd Iolo Morganwg gael gorsedd ynglyn ag Eisteddfod Caerdydd yn 1834 ond methwyd a'i chynal; eithr yn fuan wedyn dechreuwyd cynal gorsedd mewn cyssylltiad a'r Eisteddfodau, ac yr oedd wedi dod i rym yn Eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl yn 1840: cynhaliwyd un lled rwysgfawr yno, a chafodd Eben Fardd a llu eraill eu hurddo ynddi. Erbyn Eisteddfod fawr yr Aberffraw yn 1849 yr oedd y teitl o "Archdderwydd wedi ei ddyfeisio, ac yn cael ei wisgo gan Ddewi o Ddyfed. Gwelsom fod Charles Ashton yn ei draethawd yn dweyd i'r teitl gael ei hawlio gan y gwr uchod yn Miwmaris yn 1832: ond y mae yn sicr fod y safle hon yn cael ei CHYDNABOD yn yr Aberffraw. Nis gwyddom am ba faint o amser y cadwodd feddiant o'r Archdderwyddiaeth: bu "Meilir" yn gwisgo'r teitl ar ei ol: yna tuag 1876 daeth i ran Clwydfardd ac ar ei ol ef i Hwfa Mon.