Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn dringo cyfuwch a hyn yr oedd yn rhaid gwasanaethu yr Orsedd mewn safle is. Ceir fod Clwydfardd yn cymeryd ei le fel "Bardd yr Orsedd " yn yr Aberffraw, a gwyddom yn dda i gyd fod Hwfa am flynyddoedd yn gynorthwywr ffyddlawn i'r hen brydydd diddan Clwydfardd; yr hwn oedd yn llesg iawn, a baich dirfawr o ddyddiau ar ei ysgwydd hardd pan gyrchai i'r Eisteddfod tua diwedd oes. Yr oedd amryw yn nghylch yr Orsedd" yn bur batriarchaidd cyn marw Clwydfardd. Gellid gweled Dewi Ogwen yn sefyll ar y maen, a'i lais dwfn a thyner a dieithr yn araf ollwng allan weddi yr Orsedd. Yna codai Gwalchmai dawel a digyffro i ddweyd gair am henafiaeth ac urddas y defion, ac am werth yr urddan, a phriodoldeb y lliwiau oedd ar fentyll y gwahanol urddedigion,-a chrynai ei lais yn rhyfeddol o effeithiol. Yn y man cawsai Hwfa ei gyfle; ac er nad oedd mor hen a'r lleill, yr oedd yntau fel aelod ieuangaf y teulu patriarchaidd, ac yn ddigon cryf i siarad drostynt oll. Gwaeddi lle y methai Clwydfardd, a hawlio "Gosteg" i Ddewi Ogwen, a chyffroi gwên ar ol sobrwydd Gwalchmai.

Pan fu farw Clwydfardd nid oedd neb allai gydymgais a Hwfa Mon am y swydd. Yr oedd rhif ei gadeiriau cenedlaethol: yr oedd ei urddas prydweddol: yr oedd ei ddyddordeb diball a'i gred ddisyf yn yr Orsedd a'i thraddodiadau yn peri fod pawb yn yswatio ac yn cilio i wneyd lle iddo. Gwae i'r neb a ddywedai air yn erbyn yr holl ddefodau; a'r pagan mwyaf anobeithiol yn Nghymru. benbaladr oedd y neb a feiddiai feirniadu 'r Orsedd yn anffafriol. Ychydig iawn sydd yn y cylch Eisteddfodol heddyw yn credu chwarter cymaint a Hwfa Mon yn nilysrwydd henafol y defion gorseddol; y mae rhai yn dal yn bur ffyddlon i'r gred a feddai 'r tadau yn y cyfan, eithr prinhau y maent yn naturiol. Iddo ef yr oedd yr oll yn gyssegredig a diffuant, a'i serch wedi ymglymu yn ddiddatod wrth y seremoniau. Efe hefyd wnaeth yr Orsedd yr hyn yw; ac ni welwyd ar y maen llog ei debyg o ran urddas a harddwch. Craffai pawb arno a thyrai 'r miloedd i'w weled a'i wylio; ac yn enwedig i wrando ei ergydion a'i ffraeth-gynghaneddion. Amhosibl yw ei ddarlunio mewn brawddegau ymron. All neb ddesgrifio