Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Evan Vincent Evans
ar Wicipedia





Pennod V.

YCHYDIG ADGOFION.

GAN E. VINCENT EVANS, YSW. (VINCENT), LLUNDAIN.

NID oes odid i un o gyfoedion Eisteddfodol Hwfa Môn yn aros i adrodd hanes dechreuad ei gysylltiad a'r Wyl Genedlaethol, ac ni pherthyn i mi, un o'i ddisgyblion a'i edmygwyr diweddaraf, i geisio olrhain y cysylltiad hwnw ymhellach yn ol na fy adgôf personol o hono. Wrth edrych yn ol i'r gorphenol daw i fy nghof, i mi fod mor ffodus a dyfod i gysylltiad lled agos a'r diweddar Archdderwydd rywbryd tua'r flwyddyn 1872 ar fy nyfodiad cyntaf i'r Brifddinas. Yr oedd ef y pryd hwnw yn anterth ei boblogrwydd, a chyda mawr lwyddiant yn bugeilio yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Bartlett's