Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Passage, Fetter Lane. Y mae yr hen gapel,lle y clywsom ef laweroedd o weithiau yn tywallt hyawdledd ac yn byrlymu barddoniaeth erbyn hyn wedi ei droi at wasanaeth un o'r Cymdeithasau Cydweithredol (y Printing Machine Managers' Trade Society) a'r defaid a gyrchent iddo, wedi cael corlan newydd iddynt. eu hunain yn y Pentonville Road; ond i Gymry'r genhedlaeth hono, gynifer ohonynt ag sydd yn aros, ac feallai i Gymry cenedlaethau i ddod, bydd yn anhawdd sôn am Fetter Lane heb ddwyn ar gôf mai yn y lôn gul a chymharol ddinod sydd yn cysylltu Heol y Fleet a Holborn, y bu Caleb Morris a Hwfa Môn yn treulio rhan werthfawr o'u bywyd ar y ddaear. Y pryd hwnw nid oedd ysgrifenydd y llinellau hyn ond "llefnyn o hogyn," newydd adael ei gartref mynyddig yn Meirion bell, ac yn ceisio rhyw rith-lenora yn Llundain fel un o "gynrychiolwyr y wasg." Ond yr oedd cariad at lenyddiaeth, gan nad pa mor eiddiled y serch a gwan y cyflawniad, yn ddigon o drwydded i galon fawr Hwfa. Cyrchai llawer math of fardd, a phob rhyw esgus o lenor, i'w gartref croesawus yn Claylands Road, yn y llawn sicrwydd y byddai iddynt yno dderbyn cyfarwyddyd yn gystal a chroesaw. Yr oeddwn innau yn mhlith y lliaws.

Un o gyfeillion mwyaf diddan Hwfa Môn yr adeg hono ydoedd hen ficer llengarol Rhydd-ddwr-hydd chwedl yntau, sef y diweddar Barchedig Robert Jones, Rotherhithe, ac un o'n hadgofion Cymreig cyntaf o'r hyn a welsom yn Llundain ydyw adgôf am gyhoeddiad ar bared yn hysbysu fod Robert Jones ar ryw noson arbenig i draddodi darlith a'r "Farddoniaeth Gymreig" i Gymdeithas Lenyddol. Seisonig. Yr oedd yr atdyniad yn ddigon i'n denu i'r ddarlith, ac yno y daethom gyntaf i gyfarfyddiad a Hwfa yn y Brifddinas. Unwaith o'r blaen yr oeddym wedi cyd-gyfarfod, efe yn un o wyr mawr Cymanfa yr Annibynwyr" yn un o bentrefi Meirion, minnau yn "ohebydd lleol" yn ysgrifenu hanes yr wyl. Mae'n hyfryd genyf feddwl hyd yn nod yn awr nad oedd pregethwr y Gymanfa wedi gollwng dros gôf yr hogyn a gyflwynwyd i'w sylw fel