Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gohebydd yr Herald yn Nhrawsfynydd. Am gryn yspaid bu darlith Robert Jones, ar Farddoniaeth Gymreig—Beirdd Mon yn benaf a Goronwy Owen yn ben wrth gwrs—yn myned o gwmpas y gwahanol Gymdeithasau Llenyddol yn Llundain, a byddai Hwfa yn y cwrdd mor amled a minnau, ac nid wyf yn sicr iawn nad oeddym ein dau mor reolaidd yn y cynnulliad ag yr ydoedd y darlithydd ei hun. Talai Robert Jones yr echwyn yn ol i'r Prif-Fardd trwy fyned i wrando ar, ac i gymeryd y gadair yn ei ddarlithiau yntau.

Yn niwedd y flwyddyn 1873 fe gynyrchwyd llawer o frwdfrydedd Cymreig yn y Brifddinas mewn canlyniad i ymweliad buddugoliaethus "Y Cor Mawr," o dan arweiniad Caradog, a'r Palas Grisial. Un o ganlyniadau anuniongyrchol y fuddugoliaeth gorawl yr adeg hono ydoedd adfywiad cymdeithas henafol y Cymmrodorion. Fel y mae'n eithaf gwybyddus sefydlwyd y Gymdeithas hon yn y flwyddyn 1751 gan Rhisiart Morris o'r Mint a'i frawd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fon). Bu y Gymmrodoriaeth mewn trwm gwsg fwy nag unwaith ac ar fin trengu, ond yr ydym ni sydd yn ei charu yn dal na thorwyd erioed mo linell yr olyniaeth. Pan yr adfywiwyd hi yn 1873 er enghraifft, yr oedd o leiaf Gwrgant, os nad eraill o hen aelodau Cynghor yr ail sefydliad yn 1820, yn aros i estyn iddi draddodiad a bendith y tadau. Ac o hyny hyd yn awr y mae yn tyfu ac yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Prif ysgogydd y mudiad Cymmrodorol, fel llawer i fudiad Cymreig arall yn y dyddiau hyny ydoedd Mr—wedi hyny Syr—Hugh Owen. Gydag ef yr oedd Gwrgant a lliaws o Gymry aiddgar eraill, llawer ohonynt erbyn hyn wedi ymuno a'r Gymmrodoriaeth fwy y tu draw i'r llen; yn eu plith, Morgan Lloyd, Brinley Richards, Stephen Evans, John Griffith (Y Gohebydd) Robert Jones, Rotherhithe, William Davies (Mynorydd) R. G. Williams (ab Corfanydd) J. Roland Philipps, awdwr "Hanes y Rhyfel Cartrefol yn Nghymru a'r Gororau," a Hwfa Môn. O'r gweddill nid oes yn aros yn awr ond, Pencerdd Gwalia, Syr John Puleston a Syr Marchant Williams. Yr ydym yn cael fod Hwfa nid yn unig yn un o aelodau blaenaf y Gymdeithas adfywiedig, yr