Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd hefyd yn un o aelodau y Cynghor cyntaf o 30 a ddewiswyd i'w llywodraethu; prawf diymwad pe bae prawf yn eisieu o'r safle a'r parch a feddai yn Llundain yn yr adeg sydd dan sylw. Yn lled fuan yn ei hanes ni a'i cawn yn traddodi darlith i'r aelodau. Y tęstyn fel y gellid disgwyl ydoedd "Barddoniaeth Gymreig "a chadeirydd y cyfarfod fel yr oedd yn ddigon naturiol ydoedd ei gyfaill y Parch, Robert Jones, Rotherhithe. Yr oedd hyn yn mis Mawrth yn y flwyddyn 1876, ac yn yr Ebrill dilynol ni a'i cawn yntau yn llywyddu a Robert Jones yn darlithio ar un o'i hoff destynau sef "Pregethwyr a Phregethau Cymreig." Nid wyf yn meddwl fod cofnodiod o araeth Gymmrodorol Hwfa ar gael. Côf genyf na byddai yn hoffi i fwy na chrynodeb o'i ddarlithiau ymddangos trwy y wasg; y rheswm am hyny mae'n debyg ydoedd y gelwid arno mor aml i'w traddodi. Ond os nad yw ei farn am Farddoniaeth Gymreig ar gael yn Nghofnodion y Gymdeithas y mae darn o'i farddoniaeth ef ei hun i'w weled yn argraphedig yn y Gyfrol gyntaf o'r Cymmrodor (1877). Testyn y dernyn ydyw "Yr Ystorm" ac y mae'r llinellau yn dra nodweddiadol o ddull barddonol yr Hwfa. Er enghraifft, fel hyn:—

Ust! beth yw'r sibrwd ileddfol sy'
I'w glywed yn yr awyr fry?
Ust! clyw! mae'n nesu oddi draw
Mae'n ymwrdd yn y dwfn is law!


Ysbrydion ystormydd
Sy'n deffraw drwy'r nefoedd!
Elfenau sy'n udo
Hyd eigion y moroedd
Cymylau sy'n rhwygo
Gan gyffro y trydan,
Y gwyntoedd sy'n meirw!
A Natur yn gruddfan!!


Clyw gnul ystorm! clyw gorn y gwlaw!
Gwel wib y mellt! clyw daran braw!
Clyw dyrfau dwr! gwel ffwrn y nen!
Clyw storm yn tori ar dy ben!