Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pennod VI.

FEL BUGAIL.

GAN Y PARCH. T. ROBERTS, WYDDGRUG.

WRTH yr enw Hwfa Mon, ei enw barddol, yr adnabyddidef gan ei gydgenedl; fel bardd yn gyntaf y meddylid am dano. Ac yr oedd yn fardd, doedd dim dadl; gan nad beth arall ydoedd Hwfa Mon, yr oedd yn fardd bob modfedd o hono. Yr oedd tri anhebgorion bardd wedi cydgyfarfod ynddo yn amlwg, sef "llygaid i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder i gydfyned ag anian." Yr oedd y bardd yn amlwg yn ei holl osgo, ei edrychiad, ei ymddangosiad, ei gerddediad; yr oedd yn meddwl fel bardd, yn siarad fel bardd, yn cerdded fel bardd, yn gweithredu fel bardd. Ofer oedd meddwl am ei gaethiwo dan unrhyw ddeddf, ond deddfau caeth Dafydd Ap Edmwnt. Ond nid bardd yn unig ydoedd Hwfa