Mon, yr oedd hefyd yn bregethwr dihafal, yn weinidog da i Iesu Grist, yn ddarlithiwr hyawdl, ac yn llenor Cymreig coeth. Ond yn yr ysgrif hon ni bydd a fynom ag ef ond fel bugail neu weinidog yr efengyl. Gyda ni fel Annibynwyr, y gweinidog yw y bugail, a'r bugail yw y gweinidog; dysgwylir iddo wneud gwaith y ddau. Mae yr enw gweinidog yn ei olygu yn fwyaf arbenig yn ei gymeriad fel pregethwr, ac athraw, ac arweinydd ei eglwys; mae yr enw bugail yn ei olygu yn ei gymeriad bugeiliol o fwrw golwg dros braidd Duw, o gysuro y drallodedig, o geisio y darfedig, o ymgeleddu y glwyfedig. Yr oedd Iesu Grist yn llanw y ddau gymeriad. Fel Gweinidog Duw byddai ef yn pregethu, ac yn athrawiaethu wrth y bobl; fel Bugail mawr y defaid byddai yn eu harwain i'r porfeydd gwelltog, yn ceisio y golledig, yn dychwelyd y darfedig, yn rhwymo y friwedig, ac yn cryfhau y lesg. Efe yw "Gweinidog y cysegrfa a'r gwir dabernacl," ac efe hefyd yw "Bugail mawr y defaid." Ac wrth feddwl am dano ef, y Pen Bugail, a'r modd perffaith y cyflawnai ei waith, byddwn yn barod i ofyn yn aml, "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" "Eithr ein digonedd ni sydd o Dduw." "Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y Testament Newydd."
FY NGHYFARFYDDIAD CYNTAF AG EF.
Y tro cyntaf i mi weled a chlywed Hwfa Mon oedd yn hen bwlpud Salem, hen "Gapel Ty-du," plwyf Llanbedr-y-Cenin, y pryd hwnw dan weinidogaeth yr hen efengylydd llariaidd John Williams, Caecoch. Yr oedd hyny yn Mehefin 1862. Cyfarfod pregethu blynyddol oedd yno. Nid oedd cylch y dewisedigion i gyfarfod Salem y pryd hwnw yn un mawr; fel rheol byddent yn cael eu dewis o blith Gweinidogion cymydogaethol.—Ap Vychan; Y Go Bach, Tanymarian; Roberts, Caernarfon; Edwards, Ebenezer; Griffiths, Bethel; J.R., fel rheol fyddai cylch yr etholedigion. Yr oedd Hwfa ar y pryd yn Brymbo a Gwrecsam; anaml y meddylid am fyned mor bell a hyny i geisio pregethwr i gyfarfod Salem, rhaid felly fod ei enw wedi dod yn lled adnabyddus fel pregethwr poblogaidd. Testyn un o'i bregethau