Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor fyw a ffres i mi heddyw a phe buasai'r cyfryw wedi dygwydd y ddoe.

Anfonasom adref o Utica yr aethai llawer o bethau yn angof, ond nad aethai pobl urddasol Bagillt a chyngorion difrifol Mr. Williams y gweinidog byth yn angof!"

Ond i ddychwelyd at Hwfa yn Wrecsam a Brymbo. Tybiaf mai y cyfnod y llafuriodd yn y cylch hwn oedd yr un mwyaf llafurus, a dichon y mwyaf llwyddianus, yn ei hanes fel gweinidog. Yr oedd yr adeg hon yn mlodau ei ddyddiau, yn ddyn ieuanc cryf a golygus, a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd yn dechreu fflachio dros y wlad. Am dano yn y cyfnod hwn ysgrifena ei gyfaill Rhuddenfab yn Ngheninen Gwyl Dewi fel hyn :-"Yn ystod y tair blynedd y bùm yn byw yn Ngwrecsam cefais y fraint o fwynhau cyfeillgarwch diffuant Hwfa Mon a'i anwyl briod, yr hon oedd yn un o'r boneddigesau mwyaf caredig a welais erioed. Yn y blynyddoedd hyny yr oedd Hwfa Mon yn enill nerth fel pregethwr o Sabboth'i Sabboth, fel y tyfodd ar unwaith yn ffefryn yr eglwysi trwy Gymru, fel y profai y galwadau parhaus o hob cyfeiriad am ei wasanaeth. Yr oedd hyny yn peri iddo fod oddi cartref yn fynych, er gofid mawr i'w wrandawyr; a'r hybarch Ishmael Jones y Rhos yn gyffredin fyddai ei giwrad. Byddem weithiau yn cael cyfarfod ysgol yn ei absenoldeb. Ond pa un bynag ai pregeth gan arall, ai cyfarfod ysgol, fyddai genym, byddai Hwfa Mon y Sul canlynol yn gwneud iawn am y golled; a byddai y gynulleidfa yn gwirioni ar ei ddawn, ac yn meddwl mwy o hono nag erioed."

Bu dyfodiad Hwfa Mon i Brymbo yn fywyd o feirw i'r achos Cymreig yn Wrecsam. Y pryd hwnw yr oedd yr eglwys Annibynol yno fel llin yn mygu, a bron wedi diffoddi. Yr oedd golwg salw a digalon ar yr hen gapel, ac yr oedd ei amgylchoedd yn waeth na hyny. Fel yr eglwys yn Pergamus, trigai yr eglwys fechan "lle yr oedd gorsedd-fainc satan." Yr oedd Pentrefelin y pryd hwnw yn cael ei adnabod fel Bedlam Gwrecsam, trigfan y Gwyddelod, enwog am ei meddwdod a'i hymladdfeydd. Ond yr oedd yno "ychydig