enwau, y rhai ni halogasant eu dillad," rhai o "heddychol ffyddloniaid Israel." Aeth dau o'r rhai hyn i Frymbo, i osod eu hachos gerbron yr eglwys yno. Dywedent, yn ol geiriau Rhuddenfab yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "fod yr achos yn Wrecsam, yn ol pob arwydd yn sicr o farw, os na ddeuai ymwared o rywle yn bur fuan." Wedi gwrando eu cwyn cyfododd Hwfa Mon a dywedodd, "Os bydd hyny yn foddhaol gan yr eglwys yma, yr wyf yn barod i roddi oedfa iddynt yn Ngwrecsam bob Sabboth am ddau o'r gloch, ac i gadw y gyfeillach ganol yr wythnos, am dymor, i edrych beth allwn wneud." Aeth y gynrychiolaeth adref yn galonog ryfeddol, ac fe ddechreuodd yntau gyflawni ei addewid ar unwaith; ac yn wyrthiol rywfodd dechreuodd yr achos yn Ngwrecsam ymfywiogi o hyny allan. Yr oedd pregethau Hwfa Mon y pryd hyny yn angerddol; tynai lonaid y capel bob Sabboth i'w wrando; a chwanegwyd lluaws at rifedi yr eglwys cyn pen ychydig amser. Erbyn hyn saif yr achos Annibynol yn Ngwrecsam yn gof-golofn oesol i lafur cariad gweinidog Brynseion. Mewn tair blynedd yr oedd yr achos oedd yn marw' wedi dyfod yn allu cryf yn Ngwrecsam, trwy weinidogaeth ddi-dal y llafurus a'r duwiolfrydig Hwfa Mon. Yr oedd ef wrth fodd ei galon tra fyddai achos ei Feistr mawr yn llwyddo dan ei ofal."
Ond ni chafodd Hwfa, mwy nag eraill o weinidogion Crist, ddianc heb gael ei boeni gan y rhai anhywaith a ymlusgant i'r eglwysi. Cyfarfu yntau, fel Hiraethog, a'r Ddafad ungorn gas," a chafodd aml i gorniad ganddi. Yr oedd yn aelod yn Pentrefelin tua'r adeg yma rhyw deiliwr, yn wr anfoddog a brwnt ei yspryd, a brathog ei dafod, a gwnaeth ymosodiad diachos ar y gweinidog un noson seiat. Ni chlywsom ei enw, dae waeth. Nid oedd yn ddyn iach iawn mae'n debyg, a dywedai y brawd a roddes ei hanes i ni fod ei flinder yn codi o natur ei afiechyd. Ond barn cariad oedd hon. Parodd y gwr hwnw boen calon i Hwfa, poen nas gallodd ei anghofio yn fuan. Er ei fod o duedd faddeugar a thosturiol, clywsom mai prin y gallodd faddeu i'r teiliwr hwnw, yr hwn cyn hir a alwyd i wyneb ei Farnwr. Yr