Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd Hwfa Mon yn ddyn o deimladau cryfion a byw, teimlai yn angerddol oddiwrth fryntwch brodyr, suddai eu geiriau miniog i ddyfnder ei galon, ac nid hawdd yr anghofiai hwy. Fel cyfaill yr oedd yn ffyddlawn fel Jonathan i Dafydd; ond os cai dro gwael, digiai trwyddo, a dangosai hyny, ond nid trwy ddial. Yr oedd yn ormod o gristion i ddial, ac yn ormod o foneddwr i redeg neb i lawr yn ei gefn. Gwyddai Hwfa fod rhai yn ei fychanu ef yn ei gefn, yn ei feirniadu yn angharedig, yn hystyng pethau bryntion am dano, &'r rhai hyny weithiau yn frodyr, ond ni chlywid ef byth yn bychanu yn ol, nac yn enllibio ei gymydog yn ddirgel. Os na allai ganmol, gwell ganddo oedd tewi, ac yr oedd tewi Hwfa yn awgrymiadol. Weithiai difriid ef trwy y wasg, dan gysgod cowardaidd ffug enw, wrth gwrs, a phan welai beth felly cynhyrfai ei holl natur mewn digofaint at yr ymddygiad iselwael, ond ni ysgrifenai air yn ol. Llawer gwaith y tystiai yn ein gwydd na roddodd ei law erioed bin ar bapyr i ddifrio neb yn ei gefn. Y dystiolaeth hon oedd wir.

HWFA FEL DISGYBLWR.

Ystyrir disgyblu a cheryddu yr afreolus yn rhan bwysig, os nad y brif ran yn ngolwg rhai, o waith y gweinidog. Edrychir arno fel dyn llac a diofal am anrhydedd yr achos, os na fydd o hyd yn clecian y chwip, ac yn plycio yr efrau. Ond ni fuasai neb yn meddwl am Hwfa yn y cymeriad hwnw; nid oedd yn ei line. Gwell oedd ganddo adael i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf, rhag ofn y buasai wrth ddiwrieiddio yr efrau yn diwrieiddio y gwenith gyda hwynt. Os oes ddisgyblu a cheryddu i fod, gwneler hyny gan y swyddogion, a gwneler hyny gan y rhai mwyaf ysprydol, ac mewn yspryd addfwynder, a chyda'r amcan o adgyweirio. A'r unig ffordd effeithiol i ddisgyblu a cheryddu yr afreolus, ydyw i'r eglwys ddangos y fath ymarweddiad pur a santaidd ag a'i gwnelo yn rhy boeth i rai felly deimlo yn esmwyth ynddi. Pan ofynwyd i Moody beth fuasai yn ei wneud â liquor merchant, pe buasai yn aelod yn ei eglwys, yn ddyn o gymeriad diargyhoedd, ac yn haelionus at yr achos, a fuasai yn ei ddiarddel?