Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"No," meddai yn benderfynol, but I would make my church too hot for him." Dyna yr unig ffordd ddiogel ac effeithiol i ni ddisgyblu—gwneud ein heglwysi yn rhy boeth iddynt. Pan mae yr eglwys yn ei lle, mae dychryn yn dal y rhagrithwyr yn Seion. Ond medrai Hwfa ddisgyblu a cheryddu yn llym, os gwelai achos amlwg yn galw am hyny. Gwelsom ef yn ceryddu o'r pwlpud ragor nag unwaith. Yr oedd yn eiddigeddus dros anrhydedd ac urddas y pwlpud; os gwelai ysgafnder neu gamymddygiad wrth wrando cenadwri yr efengyl, teimlai fod rhwymedigaeth arno i arfer ei awdurdod i geryddu y pryd hwnw, ac ni phetrusai nodi allan ar gyhoedd y personau fyddai yn camymddwyn, a rhoddai iddynt wers nad anghofient yn fuan. Gwelsom unwaith frawd a eisteddai yn union o flaen ei lygaid yn lle edrych arno yn troi dalenau ei lyfr emynau. Nid oedd y brawd hwnw yn meddwl ei fod yn gwneud dim yn anfoesgar, llawer llai ddiystyru y pregethwr, ond felly yr arferai fod yn aml, er poen i rai. Safodd y pregethwr yn fud am eiliad yn y pwlpud, setiodd ddau lygaid bychain treiddgar dan eiliau trymion ar y dyn, pointiodd ef allan a'i fys, a gorchymynodd ef i gau y llyfr, a dywedodd mai arwydd o ddiffyg synwyr, neu ddiffyg crefydd, neu anfoesgarwch, oedd i ddyn ddarllen ei lyfr emynau yn ei set yn lle gwrando. Dychrynodd y brawd, ac nid anghofiodd y cerydd, ac nid anghofiodd y gynulleidfa hono. Dywedir am y diweddar Barch. R. Humphreys y Dyffryn, pan y byddai ef yn cael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i ryw eglwys i drafod mater o ddisgyblaeth, y byddai y cymydogion yn arfer dyweyd, wedi deall pwy fyddai y llysgenadwr. "Ni bydd eisiau yr un crogbren y tro hwn." Nid llawer o waith i'r crogbren a wnaetli Hwfa yn ei oes. Y llinellau amlycaf yn ei gymeriad ef oedd caredigrwydd a thynerwch; camgymerai rhai hyn yn feddalwch, ond nid y rhai a'i hadwaenent oreu.

A OEDD HWFA YN YMWELWR?

Gofynais i chwaer graff, ddeallus, oedd yn aelod yn Brynseion,