Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weinidog, gan nad faint ei alluoedd, gyflawni ei waith yn effeithiol yn y pwlpud ar y Sabboth, os treulia lawer o'i amser mewn ymweliadau dianghenrhaid â thai ei bobl yn ystod yr wythnos. "A house—going pastor makes a church—going people," meddai Dr. Chalmers. Digon tebyg, but a house—going pastor makes a weak pulpit. A rhaid i'r eglwysi gymeryd eu dewis, os am "house—going pastor" rhaid iddynt foddloni ar bwlpud gwan; ond os am bwlpud cryf rhaid iddynt beidio dysgwyl i'w gweinidog dreulio ei amser i ofer siarad yn eu tai. "Peidiwch," meddai y cawr bregethwr Ap Vychan, wrth roddi siars i eglwys ar ordeiniad gweinidog, "Peidiwch a dysgwyl iddo fod lawer o'i amser yn eich tai chwi; mi ddaw mi wn pan fydd achos yn galw, ond i chwi roi gwybod iddo, ond peidiwch a dysgwyl iddo fod fel ciwrad yn trotian o dy i dy i yfed te gyda chwi ar hyd yr wythnos; neu os gwnewch chwi, rhaid i chwi foddloni ar bregeth bach fain fain, fel pregeth ciwrad, ar y Sul. Mae ar bregethwr eisiau bod yn ei study yn darllen a myfyrio, a pharatoi ei bregethau, ac nid yn chwedleua ar hyd y tai. Ac oni fydda fo yn beth digrif gweled gweinidog yn myned a gwmpas tai ei bobl bob boreu ddydd Llun, fel casglwr trethi, a gofyn yn y drws, "Oes yma rhywun yn sal heddyw," ac felly yn mlaen nes myned rownd iddyn nhw." Ac eto rhaid ymweled, yn enwedig a'r esgeuluswyr a'r trallodus. Ond y gamp yw ymweled i bwrpas. Mae rhai yn ymweled yn rhy aml, eraill yn rhy anaml. Mae ymweled rhai yn fantais i'r weinidogaeth, mae ymweled eraill yn andwyol i'r weinidogaeth. "Buaswn yn gallu gwrando yn well ar Mr——— pe buasai heb fod yma yn adrodd straeon ffol i ddifyru y plant acw y dydd o'r blaen," meddai gwraig gall a chrefyddol am ei gweinidog. Dylai ymweliad y gweinidog â thai ei bobl fod yn foddion o ras i'r teulu, nid yn sych-dduwiol chwaith, a sanctimonious, ond yn hollol rydd, agos, a naturiol; nid yn rhyw swyddogol bwysig, neu offeiriadol, ond fel cyfaill caredig. Mae yn debyg mai yr un oedd yn medru gwneud hyn berffeithiaf oedd y diweddar Parch. W. Griffiths, Caerygbi. Yr oedd ymweliad y gwr anwyl a santaidd hwnw a thai ei bobl fel