Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymweliad Angel Duw, bron fel ymweliad Iesu Grist. Ni byddai byth yn aros yn hir, ond digon hir hefyd i ysgwyd llaw a phob un ac i ddyweyd rhyw air yn ei amser" wrth bob un, ac ni phasiai yr eneth forwyn os gwelai hi. Yr oedd ef yn gofalu na byddai ei ymweliadau a thai ei bobl yn anfantais iddo yn y pwlpud, ond yn hytrach yn fantais. Ac onid oedd amryw o'r hen weinidogion yn enwog fel ymwelwyr doeth. Ofnir fod y to presenol o weinidogion. yn mhell ar eu hol yn hyn. Cwynir fod ambell un gafodd ei addysg ar draul yr enwad, yn ystyried ei hun yn rhy fawr (?) i ymweled. a phobl ei ofal, yn enwedig â'r aelodau cyffredin, talant rhyw social visits a'r rhai pwysicaf. Mae eraill, o ddiogi neu ddiffyg meddwl, yn gadael y gwaith i'r ficar a'i giwrad, ac felly collant eu pobl. Mae eraill yn ymwelwyr mor annoeth fel y byddai yn llawer gwell iddynt beidio. Meddai y gwr ffraith hwnw, y Parch. J. Stephens, Brychgoed, wrth gynghori cyfaill unwaith ar y mater hwn, "Peidiwch a myned yn rhy aml i dai eich aelodau, ond bydd yn rhaid i chwi ymweled a hwy weithiau hefyd. Ceisiwch gael gafael ar y man canol. Y mae un yn cario y gwair yn rhy newydd, felly mae yn fynych yn llosgi ganddo. Y mae arall yn gadael y gwair yn rhy hir heb ei gario, felly gwair llwyd sydd ganddo bob amser. Y mae man canol i gario gwair. Ac y mae man canol ar ymweliadau gweinidogaethol. Peth mawr yw i chwi gadw eich aelodau rhag llosgi mewn hyfdra gormodol arnoch, a rhag llwydo mewn dieithrwch oddi wrthych. Cofiant fod man canol arni."