Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William John Parry
ar Wicipedia





Pennod VII.

FEL GWEINIDOG.

GAN W. J. PARRY, BETHESDA.

Y TRI Gweinidog cyntaf y bum tanynt yn Bethesda oeddynt Y Parchn Llewelyn Samuel; David Jones B.A.; a Hwfa Mon. Ni fu tri mor anhebyg iw gilydd, mi gredaf, yn yr un un Eglwys erioed. Cof plentyn sydd genyf am Mr Samuel, gan iddo farw cyn fy mod yn dair-ar-ddeg oed, ond mae ei nodweddion fel Gweinidog yn ddigon hysbys. Gan y byddai yn dra mynych yn nhy fy rhieni cefais bob mantais, er yn ieuanc i sylwi ar rai pethau oeddynt yn ei wneud yn boblogaidd. Dyn byr, cryno, bywiog, o bryd tywyll oedd Mr Samuel. Enillai serch plant mor fuan ag y deuai iw cymdeithas. Gofalai am fod ar delerau da a phawb. Gallai pawb agoshau ato. Mantais fawr iddo oedd