Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y ffaith ei fod yn adnabod pob aelod wrth ei enw. Pregethai bob amser yn fyr ac yn felus. Anaml yr ai ei bregeth dros ugain munud. Byddai yr eneiniad yn wastad ar y gwasanaeth gyd ag ef; a gofalai na byddai yr un gwasanaeth crefyddol yn myned dros awr. Credai mewn tori pob cyfarfod yn ei flas. Cyfeillachau profiad y credai ef ynddynt, ac yr oedd yn dra llwyddianus i dynu allan brofiad yr hen frodyr a'r hen chwiorydd. Ni phasiai neb ar yr heol heb gyfarch gwell iddynt, na neb plentyn heb osod ei law ar ei ben, ai anog i fod yn blentyn da, a gofalu am adnod iw hadrodd yn y gyfeillach; a gwelid plant yn rhoi goreu iw chwareuon pan y deuai ef i'r golwg, a rhedent ato er derbyn ei fendith, a theimlo ei law ar eu penau. Byddai gwên ar ei wyneb yn wastad, a geiriau cysurlawn, calonogol, yn dyferu dros ei wefusau. Cymerai drafferth i astudio cymwysder pob aelod, er eu gosod yn y tresi i wneud y gwaith y credai ef y byddent gymwysaf iddo, ac nid yn aml y methai. Fel hyn arbedai lawer arno ei hun, heblaw y rhoddai fantais i rai i ddadblygu mewn gwaith y byddent gymwys i wasanaethu yr Eglwys a Christ ynddo. Anfynych yr ai ei hun trwy ran arweiniol unrhyw wasanaeth gan y byddai wedi arfer rhai o'i Swyddogion, a rhai o'r aelodau i wneud hyny, ac yr oedd amryw o honynt yn rhagori mewn hyn o waith. Rhai o brif neillduolion ei gymeriad fel Gwenidog, oeddynt, dawn, byrder, craffter, tynerwch, a chyfrwystra. Dilynwyd ef gan Mr Jones, yr hwn oedd wr gwahanol iawn iddo. O ran corph nid oeddynt yn anhebyg. Yr oedd y naill fel y llall o gorph byr, cryno, a thywyll o bryd. Yr oedd Mr Jones yn fwy o Student nag ef. Prin y gwelai neb ar yr heol, ac os gwelai rhywun ni wyddai pa un ai iw gynulleidfa ef neu rhyw un arall y perthynai. Cafwyd prawf o hyn gyd ag ef lawer gwaith. Yn ei Study yr oedd yn byw, hyd yn nod pan ar yr heol. Anogid ef gan y swyddogion i ymweled, ond pan y galwai mewn ty hawdd oedd gweled mai yn ei Study yr oedd yn y fan hono. Yn y gyfeillach anerchiad gwerth ei gwrando ar rhyw fater neu gilydd geid ganddo, yr hon yn fynych ni roddai le naturiol i