Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Traddodir darlithiau ar y testynau canlynol gan y Parch; R. Williams (Hwfa Mon)
yn Ysgoldy Bethesda yn ystod misoedd Y gauaf.

Rhagfyr 6 1865
Addysg y Bobl ieuanc
Ionawr 8 1866
Y pwys o Ffurfio Cymeriad
Chwefror 7 1866
Gwir Enwogrwydd
Mawrth 7 1866
Crefydd Bur.

Traddodir y Darlithiau hyn yn rhad i bawb, a hyderir y byddant yn
foddion i wneud lles dirfawr ir oes sydd yn codi yn Bethesda."


Fel Gweinidog, pan yn Bethesda, yn y Pwlpud y rhagorai Hwfa. Yma yn ddiddadl yr oedd yn Feistr y Gynulleidfa. Gosodai pob osgo o'i eiddo urddas ar y Swydd. Ni welwyd nag edrychiad nag ymddygiad gwamal ganddo yn y Capel. Byddai difrifoldeb mawr iw weled ar ei wedd, a phan yn esgyn grisiau y Pwlpud gadawai argraff ar bawb na ystyriai y gwaith yn ddibwys. Wrth bregethu torai bob gair yn glir a chywir; yr oedd aceniaeth bur yn naturiol iddo, ac yn fwy felly na neb a wrandewais oddigerth Caledfryn. Siaradai mor esmwyth a naturiol, mor groew a hyfryd, mor swynol a llyfn, gan hoelio pob clust wrth ei eiriau. Nyddai eiriau prydferth iawn ar adegau, gan eu dyblu a'u treblu weithiau gyd ag arddeliad. Yr oedd yn dra gofalus o deimladau pobl, a hen air ganddo oedd,—nad oedd gan neb hawl i friwio teimlad dyn mwy na'i gorph,—ond gwelwyd ef rai gweithiau o'r Pwlpud, ond anfynych iawn, yn rhoi ergydion trymion i rai troseddwyr.