Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr unig gwyn yn ei erbyn tra yn Weinidog yn Bethesda oedd ei feithder. Ymdaflai mor llwyr iw bregeth a chwysai gymaint nes ei gwneud yn angenrheidiol iddo newid ei ddillad isaf yn y ty Capel bob nos Sul cyn cychwyn gartref. Yr oedd gofal yr hen Dadau anwyl gymaint am dano nes pledio yn fynych gyd ag ef i arbed mwy arno ei hun. Ond ni thyciai dim. Bu ei iechyd yn wanaidd rhyw flwyddyn cyn iddo adael Bethesda, a rhoddwyd ar ddau o'r Diaconiaid i siarad ag ef ar y mater. Yn ofer y bu y tro hwn hefyd. Yn mhen rhyw fis ar ol hyn cyfarfyddodd un o'r ddau, a hwnw yn wr lled blaen, a thipyn yn finiog ei eiriau ar adegau, a Hwfa yn dychwelyd o daith ar brydnawn Sadwrn a bag lledr bach yn ei law, ac wedi ei gyfarch ychwanegodd y Diacon,—"Gwag mi gredaf yw hwna erbyn hyn, ac felly mae gobaith pregeth fer foru!" Teimlodd Hwfa y sylw, ac yn neillduol y dôn yn mha un y dywedwyd ef, ac aeth yn mlaen heb yngan gair. Dranoeth yr oedd yn pregethu y boreu yn Treflys; yn Saron y prydnawn; a'r nos yn Bethesda. Yn y ddau le blaenaf pregethodd fel arfer. Y nos daeth i Bethesda at amser dechreu, ac yn groes iw arfer aeth yn syth i'r Pwlpud heb wneud sylw o neb. Yr oedd y Capel yn orlawn fel y byddai bob nos Sul gyd ag ef. Rhoes benill allan iw ganu. Darllenodd y Salm 97. Rhoes benill drachefn iw ganu; a gweddiodd yn fyr ond yn llawn teimlad. Cymerodd ei destyn yn yr unfed adnod arddeg o'r Salm,—"Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon." Pregethodd am ugain munud gyd a mwy o swyn a dylanwad nag y clywais ef erioed, ar,—"Y Cyfiawn mewn tywyllwch, a'r Cyfiawn mewn goleuni." Yr oedd yr holl wasanaeth drosodd am ugain munud i saith, a neb yn symud o'u heisteddle, gan gredu mae rhyw drefn newydd o eiddo Hwfa o ddechreu y gwasanaeth ydoedd. Wrth weled neb yn symud cododd yn y Pwlpud, ac aeth i lawr grisiau y pwlpud, a phan yr eisteddodd yn y Gadair o dan y Pwlpud y drechreuodd y gwrandawyr symud allan. Byddwn yn fynych ar nos Sul yn ei ddanfon gartref i Dolawen, a'r noswaith hon cymerodd fy mraich gyd a fy mod o'r Capel, ac aethom yn mlaen fraich yn