Tudalen:Cofiant James Davies Radnor O.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

Er ys llawer o flynyddoedd cyn ei farwolaeth ceisiasai y Parch. James Davies gan ei hen gyfaill, Iorthryn Gwynedd, ysgrifenu ei gofiant, os goroesai ef. Addawodd yntau wneyd; a chydnabyddid yn gyffredinol ddoethineb y dewisiad. Ond o herwydd anghydwelediad cydrhyngddo a'r perthynasau, parthed i ddull ei ddygiad allan, efe a ymwrthododd yn bendant a'r cyfrifoldeb. Teimlwn fod yn ddyled- swydd arnom ddweyd cymaint a hyna mewn cyflawnder a'r brawd Thomas, er mwyn symud ymaith y dybiaeth mewn rhai manau, mai am na roddasid iddo fwy o arian at yr anturiaeth yr ymryddhaodd oddiwrth ei ymrwymiad. Wedi iddo ef nacau, disgynodd y gwaith arnom ni, trwy ddewisiad unol, a thaer ddymuniad y weddw a'i phlant. Yr oedd yn anhawdd genym gydsynio, o herwydd amledd a phwysigrwydd ein dyledswyddau i bobl ein gofal. Ond (i'w credyd cofnoder y ffaith), pan ddeallasant fod hyny yn peri i ni betruso, pas- iasant yn unfrydol benderfyniad i ysgafnhau ein dyledswyddau idd- ynt hwy tra yn parotoi y bywgraffiad, ac wedi y gorphenem, eu bod yn rhoddi i ni fis o orphwysiant. Felly symudwyd ymaith yr unig rwystr oedd ar ein ffordd i ymgymeryd a'r dasg. Tua'r dyddiau cyntaf yn Mai dechreuasom arno. O herwydd fod cymaint o amser eisoes wedi ei golli, teimlem y dylesid gwneyd brys i'w gyhoeddi, a thrwy garedigrwydd a chydweithrediad calonog brodyr, yn enwed- ig y Parch. R. D. Thomas, a'n hen gyfaill, Josiah Brynmair, llwydd- asom i'w orphen yn gynt na'n dysgwyliad. Gwelir hefyd i frodyr eraill wneyd yn rhagorol, trwy anfon i ni yn brydlon adgofion gwerthfawr am wrthddrych y cofiant.

Cynygir y llyfr yn awr i sylw hynaws y cyhoedd, fel y deyrnged oraf o barch a allem gyflwyno, dan yr anfanteision y llafuriem, i goff- adwriaeth un o hen dadau mwyaf llafurus yr eglwysi Cymreig trwy y Talaethau, a chan ddymuno bendith Pen yr Eglwys arno, i beri i lawer feddwl am ei ffyddlondeb yn traethu iddynt air Duw, dilyn ei ffydd, ac ystyried diwedd ei ymarweddiad.

G. GRIFFITHS.

Cincinnati, Medi 13, 1875.