Tudalen:Cofiant James Davies Radnor O.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

E HAGLITH,

Yn China, os aiff person at arluniedydd i gael ardeb o bono ei hun, gofynir iddo, Pa fatb a ddymuna ? Ac nid at faintioli y darlun, na'i ystum yntau ynddo y cyl- eirir ychwaitb yn yr ymholiad, fel gyda ni. Ond ei ystyr yno ydyw: Pa un ai eilun prydferth a garecli gael, ai ynte arddangosydd cywir o lionocli eicli hunan — hardd neu getliin ? Os telir yn, dda am y paentwriaeth arno, mae yr artist yn barod i foddhau chwaeth, a chario allan syniadau ei gwsmeriaid am danynt eu hunain, pa mor eithafol by nag, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. Trawsnewidia, ar len, gyda rhwyddineb, yn neiliad ei bwyntel a'i wry ch ell, yr anferthwch corfforol, a'r hagr- wch wynebol mwyaf anghynes i limieidd-dra perffaith, a'r tlysni mwyaf attyniadol — os cydnabyddir yn anrhyd- eddus greadigaethau ei athrylith a'i grefft!

Buasai yn gryn brofedigaeth i ni chwerthin am ben ynfydrwydd a gwag-ogoneddgarwch y paganiaid hyny, ar y naill law, a geisiant blyf benthyciol felly — a hoced eu brodyr ar y llaw arall a'u haddurnant gyda hwynt, er mwyn budr elw, oni b'ai yr argyhoeddiad ein bodein hunain yn euog o rydresweithiau cylfelyb; os nad, yn w;r, yn awdwyr rhithluniadaumwy anesgusodadwy na ? r rhai y masnechir ynddynt yn ninas Pekin. A fyno glod, bid farw, sydd hen ddiareb Gymreig adnabyddus i ni, yn yr hon y cydgyfarfydda tri anhebgor y fath wir- eddau : u J^yrdra, synwyr, a halen;" neu, yn ol dar- nodiad arall : " Bychander gwenynaidd, mel, a cholyn. " Ei hamean ydyw rhoddi llafar dealladwy a llym i'r dir- myg a deinilir yh nyfnderau yr enaid tuag at y gor- awydd, a fradychir gan rai, hyd yn nod ar derfyn eu gyrfa ddaearol, i gael eu hedmygu a'u moli gan eu holafiaid, yn . gystal a gorbarodrwydd eu cyfeillion i

B