Tudalen:Cofiant James Davies Radnor O.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6

KHAGL1TH.

gario allan eu hewyllys ddealledig yn hyny mewn marw- nadau a o chofnodion am danynt.

Ni bum erioed o'r blaen yn fwy, os mor agored ag yn awr i gerydd am hynyna. Y mae yn ffaith anwadadwy fod y duedd i borthi y chwaeth lygredig y cyfeiriwn ati, yn ymddangos mor amlwg mewn gweithiau o'r fath, nes, fel rheol gyffredin, na roddir dim rhithyn mwy o ymddiried yn yr hyn a gyhoeddir am yr ymad- awedig, fel arddangosiad o'i ddoniau, ei gyflawniadau, a'i wir nodwedd, nag a roddem mewn darlun Chineaidd ei fod yn gwir osod allan wynebwedd yr hwn y dywedid ei fod. TJn-ochrog iawn ydynt fynychaf. Ni ddywedir ond da am y marw. Edrychir hefyd ar y "peth daioni n a ddichon fod ynddo trwy chwydd-wydrau cryfion, a desgrifir ef mewn termau nchafraddol. herwydd hyny yr ydys wedi dod i edrych ar y gangen hon o'n llenyddiaetii mewn ystyr yn wyngalchiad beddau y meirw yn hytrach nag adroddiad syml, a ffydlon, er addysg, rhybudd, a chefnogaeth i genedlaethau dyfodol, o'r modd yr aethant trwy eu rhan yn ngalwedigaethau bywyd.

Wedi darllen ambell awdl neu gerdd-goffa, nid ym- ddengys mor amlyced i ni fod y bardd wedi bod mor ofalus am gadw at y gwir yn ei ddelweddiadau o'i arwr, a'i fod wedi dirdynn holl alluoedd ei awen yn yr ym- drecli i daflu ei gydymgeiswyr i'r cysgodion, ac enill yr arobryn a'r gadair eisteddfodol. Yn angladdau rhai personau, ystyrir yr hyn a draethir gan y gweinidog yn y ty ac ar lan y bedd am danynt yn sicrach mynegai o ansawdd ei deimlad ef tuag atynt, a'i ddymuniad i lefaru wrth fodd calon eu perthynasau galarus, nac o gynwysiad y " farn gyfiawn " fydd newydd ei phasio ar eu hachos, yn ol yr hyn a wnaethant yma yn y corff, ganddo Ef, gyda'r Hwn nid oes derbyn wyneb.

Gwnaed argraff annileadwy ar ein meddwl yn nglyn a'r mater hwn ychydig o flynyddau yn ol, gan hanes a ddarllenasom am ymgom, a gymerodd le mewn cyfarfod ' cyhoeddus yn New York, gydrhwng y diweddar An- rhydeddus Horace Greeley a'n cydwlaclwr dysgedig, y