yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd." Gresyn iddynt syrthio i ddifancoll, fel y mae yn dygwydd yn aml o herwydd esgeulusdra ein henwogion i ysgrifenu eu pregethau. Anaml y byddai yn ysgrifenu ei bregethau o gwbl; a phan y gwnai, ychydig nodiadau a fyddent, a'r cyfryw yn ddealledig iddo ef yn unig. Rhoddodd orchymyn pendant i'w deulu i beidio eu dangos i neb.
Un llyfr pregethau a ysgrifenodd erioed, a hyny pan oedd yn efrydwr yn nghyd â'r tair blynedd gyntaf o'i weinidogaeth. Rhoddodd hwnw yn anrheg i foneddwr ieuanc sydd yn byw yn Llanbedr; gwelsom ef yn ddiweddar, ond byddai yn gam annhraethol i ddwyn hwnw allan fel dangoseg o Williams, Aberduar, yn ei ddyddiau goreu. Ei drysor bachgenaidd ydyw hwnw, ac nid ffrwyth ei feddwl mawr addfed.
RHAN III.
FEL DYN, GWEINIDOG, A CHRISTION.
Ei ddyn oddi allan—Ei atebion ffraethlym―Yn ddyn llawn—Synwyr cyffredin cryf—Yn gyfeillachwr hapus—Yn cymhwyso ei hun i wahanol gylchoedd cymdeithas Cyfaill ffyddlon—Rhyddfrydwr o ran syniadau gwleidyddol—Yn weinidog da—Adeiladu tri o gapeli—Bedyddio llawer—Amryw weinidogion parchus—Gofalu am achosion gweiniaid—Hyfforddiadau i weinidogion ieuainc—Myned yn mlaen gyda'i oes—Cristion da, egwyddorol, ac ymarferol.
Y dyn oddi allan.—Nid oedd ein hoffus frawd y Lefiad mwyaf golygus, eto nid oedd mewn un modd