Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fab codi tai, fab cadw tir,
Fab glwysdeg yw, fab glasdir;
Fab planu coed, glasgoed glyn,
Fab gwir hedd, fab â gwreiddyn;
Fab coffr lawn, fab gaiff hir log,
Fab rhinwedd, fab arianog;
Fab clod hir, fab clyd yw hwn,
Fab llwyddiant—moliant miliwn ;
Fab ddaeth o'r gors i'r orsedd,
Fab hir ei sôn, fab ar sedd."

Ac ymddengys mai ei hoff ddarnau oeddynt yr uchod, ac hefyd, "Yr Iesu a wylodd." Nid ydym wedi cael ar ddeall fod ein brawd yn ymgeisydd Eisteddfodol, oddigerth mewn un neu ddwy ddinod. Cawn ef yn fuddugol ar y "Gân ar Ddyffryn Teifi," yn Eisteddfod Caersalem, yn y flwyddyn 1870, ac yn gyd-fuddugol ar y Farwnad yn yr un.

EI GYNYRCHION LLENYDDOL.

Nid ydym yn gwybod am ddim heblaw Lloffyn y Prydydd, pa un a argraphwyd yn 1839; a Chofiant John Jones, Llandyssul, 1859. Ysgrifenodd amryw ddarnau i'n cyfnodolion misol, megys Bywgraffiad i'r diweddar Barch. B. Thomas, Penrhiwgoch, yr hwn a ymddangosodd yn Seren Gomer, pa un oedd yn cynnwys desgrifiad o hono fel pregethwr, yn nghyd â hanes ei fywyd; buasai yn dda genym ei gael i'r cofiant hwn. Mae yn amlwg fod gan Mr. Williams dalent i fod yn llenor o radd uchel, eithr ni roddodd ei fryd ar hyny. Clywsom amryw bregethau ganddo a fuasai yn gaffaeliad i'n llenyddiaeth, megys ei bregethau ar "Abia yn nhy Jeroboam;" "Crist ein bywyd ni;" "Etifeddiaeth anllygredig;" "Cariad Duw wedi ei amlygu mewn Cyfryngwr;" "Oen Duw,