Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr ydych i fod Mr. Williams bach." Yr oedd yn gyddeithiwr diail, o herwydd yr oedd ei ymddyddanion mor ffraeth-bert a difyrus.

Cof genyf am dri o weinidogion yn cyd-deithio o Llanrhystyd i Dregaron. Mr. Williams ar gefn caseg uchel; yr ail ar gefn pony o faintioli cyffredin; a'r trydydd ar gefn un "bychan bach," un o'r rhai lleiaf a welsom erioed yn cario bod dynol ar ei gefn. Dywedodd yr olaf na welodd un erioed allasai guro yr un bach mewn trot o hir barhad: atebodd Mr. Williams fod ei gaseg ef yn un o'r goreuon: taerodd y llall y buasai yr un bach yn sicr o'i maeddu. Safodd Mr. Williams, ac edrychodd arno ef a'r pony bach mewn syndod, gan ddweyd, "Fachgen, 'does dim lle i ddirgelwch yn hwna."

Yr oedd yn gyfaill ffyddlon. Gwyddom am frodyr fu yn ei gyfeillach am flynyddau lawer: nid oedd twyll, hoced, na brad yn perthyn iddo. Nid oedd un amser yn siarad yn anmharchus am neb yn ei gefn, ac ni theimlai yn hapus i wrando ar neb arall yn gwneyd hyny; darfu i ni sylwi arno lawer gwaith yn edrych yn ddiflas, gan droi at rhyw bwnc arall, yn hytrach na gwrando arnynt. Byddai bob amser yn wyliadwrus rhag archolli teimlad neb. Yr oedd yn ymddangos yn edrych ychydig yn annibynol ar y dechreu i'r dyeithr; ond wedi ymgynefino ag ef, teimlid ef yn agos atoch, er y byddai ef yn arfer digrifwch diniwed wrth y rhai oedd yn ei garu fwyaf. Flynyddau yn ol, yr oedd gweinidog yn Sir Aberteifi heb fod yn un o'r rhai mwyaf talentog a threfnus ei ymadroddion, eto yn meddwl llawer o hono ei hunan.