Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig o glod oddiwrthi; deallodd hithau ei amcan, a dyma ydoedd yr ymddyddan gymerodd le:—

Y Pregethwr "Yr oedd tyrfa fawr o bobl yn Aberduar heddyw."

Y Wraig—Yr oedd yn foreu fine iawn, welwch chwi."

Y Pregethwr "Yr oedd y bobl yn hynod sylwgar wrth wrando."

Y Wraig—"Mae yn fresh iawn yn y boreu; mae pawb a'u penau i'r lan."

Y Pregethwr—"Ie: fe bregethais inau yn dda iawn."

Y Wraig—" Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun."

Y Pregethwr" Paham na wnewch, ynte? Gwell i mi ganmol fy hunan na bod heb yr un o gwbl."

ADEILADU TRI O GAPELAU.

Aberduar.—Yr hwn a ail-adeiladwyd yn y flwyddyn 1841, pa un sydd yn adeilad prydferth, a mynwent fawr yn perthyn iddo.

Bethel Silian.—Adeiladwyd hwn eto yn ei amser ef. Yr oedd yr hen achos yn y Coedgleision o fewn milldir a hanner i'r lle yr adeiladwyd y capel newydd. Darfu i Mr. Evans, Tanygraig, roddi tir ac adeiladu y capel ar ei draul ei hunan, ond rhyw sut gwaelu y mae yr achos wedi gwneyd hyd yn bresenol oddiar ei symmudiad i'r lle newydd.

Caersalem.—Adeiladwyd hwn eto yn ystod bywyd yr un gweinidog, yr hwn sydd tua milldir a hanner