Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bodaeth ychwanegol ar bynciau crefydd. Mae amryw o'r hen gyfeillion hyny wedi myned, fel yntau, i fro dystawrwydd, a rhai o honynt yn fyw eto. Yr oedd efe yn feddiannol ar yspryd amyneddgar a boneddigaidd yn ei ddadl yn wastad; ni chyffroid ef i dymherau anaddas. Ac os collai ei wrthddadleuydd lywodraeth arno ei hun, chwarddai am ei ben, ac a daflai y pwnc heibio nes yr oerai y cyfryw a dyfod i'w iawn bwyll. Yr oedd yn gampus fel dadleuwr. Ac am ei ysbryd ymofyngar, da y gwyddai y gweinidogion a lafuriasant yn ei gymydogaeth, sef Morgan, Llanfyllin; Griffiths, Tyddewi; Lloyd, Towyn; ac eraill a ddeuent heibio yn achlysurol, oblegid nid oedd iddynt heddwch tra yn ei gymdeithas, gan ei holiadau a'i wrthddadleuon; diammau iddo roddi eithaf prawf lawer gwaith ar eu gwybodaeth a'u hamynedd drwy ei ymofynion di ddiwedd am rywbeth neu gilydd bob cyfle a gai. Dilynai Dic hwynt o'r naill fan i'r llall, fel prin y caent seibiant rhwng oedfaon i feddwl ond ychydig am eu pregethau. Yroedd yr enwogion hyn yn canfod awydd yr hen frawd am wybodaeth Ysgrythyrol gymaint, a hwythau yn ymhyfrydu gymaint mewn cyfranu gwybodaeth, fel trwy y ddau beth hyn y cedwid eu hamynedd rhag pallu, arhag iddynt edrych arno fel "corff y farwolaeth" iddynt. Daeth Richard fodd bynag trwy y pethau hyn, yn feddianol ar wybodaeth ëang yn athrawiaeth yr efengyl. Ac nid llawer llai oedd ei ymofyngarwch drachefn gyda chyfeillion yn y weinidogaeth, ar ol iddo droi allan yn bregethwr teithiol. Byddai ganddo ryw bwnc i ymdrin ag ef, neu ryw adnod eisiau esboniad arni, a "beth y mae hwn a hwn yn ddeyd arni, edrych fachgian." Daeth trwy yr holl bethau hyn yn adnabyddus âg enwau rhai o'r prif awdwyr