Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ysgrifenasant ar y Beibl, ac ar wahanol ganghenau athrawiaeth gras.

Pen. III.

R. J. YN DECHREU PREGETHU.

Pan ddechreuodd bregethu, nid oedd y gorchwyl yn beth hollol ddyeithr iddo ef, oblegid arferasai ei ddawn i esbonio cyn hyny am flynyddoedd o dan y pulpud; nid oedd ond megys newid y lle y safai arno, neu dair bedair o risiau yn uwch. Nid oedd efe ar ei gychwyniad ond canolig iawn fel pregethwr, mewn cymhariaeth i'r hyn a ddaeth yn mhen ychydig o flynyddoedd wedi hyn, yn enwedig yn ei ddull yn trin ei faterion. Ond derbyniai bob cynghor neu sylw a gaffai gan bawb, ar yr hyn a fernid yn wrthun yn ei ddull, neu yn annghywir yn ei ymadroddion. Yr oedd felly hefyd bob amser cyn hyn. Pan oedd yn dechreu dweyd ychydig dan y pulpud, dywedai rhyw wraig wedi bod yn gwrando arno, wrth ei chymydogion, "Wel, y mae hi wedi darfod ar Dic yn lân, rhaid iddo ymrôi ati, neu ei rhoi i fyny." Pan fynegwyd hyn iddo, aeth fel saeth i'w galon, a dywedodd, "Wel yn widdionedd ina, oth yw Neli William Thiôn yn deyd felly am danaf, y mae wedi myn'd yn wan ofnadwy addnaf." Ond yn hytrach na ffyrnigo wrthi, a digaloni, efe a ymroes â'i holl egni i ddiwygio a chynnyddu. "Dyro addysg i'r doeth , ac efe a fydd doethach." Ar ol myned yn bregethwr cyhoeddus, arferai ambell air neu frawddeg gymysgedig o Gymraeg a Saesonaeg ac weithiau air Saesonaeg pur, pan ar yr un pryd nad oedd yr hen frawd yn deall yn gywir beth oedd eu priodol ystyr. Wrth son am brofedigaeth Daniel yn cael ei daflu i ffau y llewod am ei