Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddiysgogrwydd yn ei grefydd, efe a ddarluniai y llewod yn ei gyfarfod dan ei foesgyfarch ef; "Dacw un llew yn dwad ato, ac yn gofyn iddo, How di dŵ, thyr; a hen lew mawdd addall yn deyd wrtho gan ethtyn ei bawan, How di dŵ, how di dŵ Printh o Wêlth. Dywedwyd wrtho ar ol hyn gan gyfaill a garai ei les, "Richard Jones, rhaid i chwi ofalu am iaith well yn eich pregeth onide chwi ewch yn wrthddrych chwerthiniad y rhai a garant ddal ar feiau pregethwr." "Wel,beth yw'dd matedd?" "Dywedasoch fod un o'r llewod yn galw Daniel yn Prince of Wales. A wyddoch chwi beth yw hyny?" "Wel, beth yw o, dwad?" "Beth yw o yn wir, ond Tywysog Cymru ydyw! ac ni bu Daniel yn Dywysog Cymru erioed." "Taw, fachgian," ebe efe, "ai dyna ydi o?" dan synu, gwenu, a chywilyddio. "Ië yn wir," ebe hwnw. "Wel, ni thonia i byth am ei enw ond hyny." Derbyniodd y sylw yn garedig iawn. Yr oedd ganddo ambell hen gyfaill go ddidderbyn wyneb a ddywedai wrtho am ei ffaeleddau yn y pulpud, er na byddai y cyfryw i'w gystadlu ag ef mewn gwybodaeth ysgrythyrol. Hawdd fyddai ganddo ef weithiau wrth ymdrin â rhyw bwnc o ddadl, grybwyll syniadau yr hen awdwyr enwog, gan ddweyd, "Wel hyn y mae Doctodd Dodricth yn golygu, ac wel hyn y mae Doctodd Owen yn deyd, ac y mae Henddy yn deyd wel hyn, a Doctodd Watts ydd un fath; ond wel yma ddwy I yn deyd." Meddylid y gwnaethai gam â'i fraich gan mor angerddol y byddai yn adrodd— "ond wel yma ddwy I yn deyd." Dywedai hen gyfaill wrtho ef, "Richard, y mae eich dull yn son am farn awdwyr a'ch barn eich hun, yn ym ddangos yn lled hunanol. Beth ydych chwi o ddyn wrth Henry, Doddridge, Owen a Watts, dynion mawr-