hon y derbyniwyd yn ddiweddar y dystiolaeth ganlynol o'i heiddo am Richard Jones yn cadw cyfarfodydd eglwysig. Dywed fel hyn,—"Ni chlywais neb gwell mewn Society erioed nag ef. Bum yn cerdded pedair milldir, sef o'r Bwlchgwyn i Lwyngwril i'r Society gannoedd o weithiau. Fe allai mai hanner dwsin o nifer a fyddai wedi ymgasglu ynghyd; ond byddai yr hen sant mor wresog ac mor nefolaidd, fel y byddwn yn myned adref dan ganu, wedi cael eithaf tâl am fy siwr nai." Dyma hefyd dystiolaeth Mr. Griffiths ei hun, "Ni chlywais ei well erioed am ddwyn Society ymlaen er cysur ac adeiladaeth, a byddwn bob amser yn cael ad fywiad i'm hyspryd wrth wrandaw arno. gwybod yn brofiadol y pethau sydd o Yspryd Duw, ac yn gallu dyddanu ereill â'r dyddanwch y dyddenid ef ei hun gan Dduw. Gwyddai ef yr Ysgrythyr Lân, nid yn unig yn ei chysondeb, ond hefydyn brofiadol. " Os byddai angen darostwng ambell un, yr oedd efe mor fedrus i wneyd hyny hefyd mewn dull caruaidd a di dramgwydd. Os byddai ambell frawd gwan yn methu dweyd ei feddwl, helpai Richard Jones y gwan hwnw o'i drafferth yn ddioed. Os dywedai rhywun arall unrhyw beth a fyddai i'r pwrpas, tarawai ei law ar y bwrdd a dywedai, " Dyna fo fachgen," ac yna efe a orphenai forthwylio yr hoel adref. Byddai ganddo ef bron bob amser ryw fater neu bwnc neillduol yn cael ei osod i lawr yn destun i ymddyddan yn ei gylch, megis y pethau hyn,—Aberth Crist yn unig sail cymeradwyaeth pechadur gyda Duw—yr Yspryd Glân yn Awdwr crefydd yn yr enaid—y pwys fod pob Cristion yn meddu ffydd gref—yr anfanteision cysylltiedig â gwendid ffydd y dylai pob Cristion sefyll yn wrol dros ei egwyddorion—yr angenrheidrwydd i bawb
Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/26
Gwedd