a edrych ar grefydd yn ei mawredd a'i phwys—na byddo i neb roddi na chymeryd tramgwyddd—rhyfeddodau y byd tragwyddol y tu hwnt i amgyffred dyn tra yn y cnawd—Na ddylai plant Duw ddisgwyl cael myned drwy y byd hwn heb drallodion. Dyma rai o'r pethau yr ymhoffai efe eu gosod yn destynau ymddyddanion yn y cyfeillachau eglwysig. Wrth ymdrin â'r pwnc diweddaf a grybwyllwyd, efe a annogai ei gyfeillion i gofio yn wyneb yr hyn oll a'u cyfarfyddai ar daith bywyd, mai pererinion oeddynt ar y ddaear. "Byddaf" eb efe, "ar fy nhaith wrth bregethu yn myn'd i lawedd math o Lodginth. Pan fyddaf weithiau mewn ambell le na bydd o modd gythuruth ag y dymunwn, byddaf yn ceithio cymmodi fy meddwl âdd lle wth ddweyd ynof fy hun, Caf fyned i ffwdd y foddy, A phan elwyf lle mwy uddathol a chroethawgadd, byddwn yn dweyd ynof fy hun yno hefyd, Rhaid i mi ymadael y foddy. Felly y mae hi gyda ni yn y byd hwn fel peddeddinion; oth daw rhyw ofid i'n cyfaddfod, cofiwn na pheddy hyny ddim yn hîdd, aiff heibio yn union; ac o'dd ochoda addall, oth gwena y byd, cofiwn na pheddy hwnw ychwaith ond ychydig iawn." Medrai ddweyd yn bur lým pan fyddai angenrheidrwydd am hyny. Pan oedd ef un tro yn son yn y gyfeillach am adeiladu Seion, dywedai rhyw frawd wrtho am dano ei hun ei fod yn ofni mai rhywbeth oddi allan oedd efe. Dywedodd yntau, "Dwy i ddim yn hoffi peth welyma; mae Duw yn ffyddlon i'w addewidion, doeth dim achoth i neb fod oddiallan, mi fentra i mywyd ar air y Gwdd." Yr oedd yn bur hynod weithiau yn ei weddiau yn y cyfryw gyfarfodydd. Ambell waith efe a grybwyllai am rai o'r cyfeillion wrth eu henwau yn ei weddi, mewn rhyw amgylchiadau neillduol. Un tro pan oedd gwr o'r enw
Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/27
Gwedd