Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Morgan Morris, naill ai newydd ddyfod i'r gyfeillach eglwysig, neu ynte pan oedd yn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod eglwysig, yr oedd yr hen frawd mewn hŵyl ragorol yn niwedd y Cyfarfod yn gweddio dros y frawdoliaeth fechan; ac ymhlith yr amryw fendithion a ddeisyfai gan yr Arglwydd, dywedai—" Yngiafal yngiafal â'dd pethau hyn y b'om ni, a Moddgian gyda ni." Dychymyged y rhai sydd adnabyddus â hwyl Richard Jones, pa fodd y lleisiai efe yr ymadrodd, "A Moddgian gyda ni," yn enwedig pan oedd efe mewn teimladau dwysion drosto ef. Nid dweyd hyn yn fyr ac yn sychlyd, ond efe a chwyddai ei lais ac a roddai sain effeithiol iddo "a Moddgan gyda ni." Er fod yr amgylchiad hwn wedi digwydd er's llawer blwyddyn, mae ei swn yn nghlustiau rhai o'i gyfeillion hyd heddyw, draw ar belldiroedd America, a diau yr adnewyddir y sŵn hwn os digwydd i'r Cofiant presennol ddyfod i'w llaw. Ac mae'n debygol nas annghofia Morgan ei hun mor weddi hon yn fuan, a gobeithir mai gweddi wedi ei hateb ydyw. Na thramgwydded Morgan wrth hen gyfaill am ofyn iddo—"Pa leyr wyt ti?" a wytti " yngiafal—yngiafal" â'r pethau sydd yn nglŷn âg iachawdwriaeth?

Pen. V.
YN BREGETHWR TEITHIOL.

Gan mai fel Pregethwr Teithiol y daeth ei gymeriad yn fwyaf hysbys i'r cyffredin, cymerwn olwg arno yn y sefyllfa hòno; a chyn gwneuthur hyn, dylem ddywedyd mai colled ddirfawr i'r achos yn Llwyngwril a'r cymydogaethau cyfagos, oedd helaethiad cylch ei