Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lafur, oblegid er pan ddechreuodd fyned yn bregethwr teithiol, ychydig a fwynhawyd byth wedi hyn o'i lafur yn mro ei enedigaeth, oddieithr dros yr amser byr y deuai adref i gael ychydig seibiant cyn cychwyn i'w daith drachefn. Nis gellir manylu ar yr oll a berthyn ai iddo yn y cymeriad hwn, ond sylwn ar rai o'r prîf bethau.

Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bob angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gôf mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, i hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhäai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw efyn cychwyn i'w ffordd, a'i gôt fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed â llanc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbïo yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus; ni chyhuddid ef un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd, gyd'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, efallai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied