Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwbl mor blentynaidd â hyn. Cyrhaeddodd y ddau y llety, a chyda'u bod yn y ty, "O bobolfach," ebe R, J. "dyma ni 'n thâff unwaith eto, trwy drugaredd;" a chyda'i fod yn eistedd i lawr, a dechreu ymgomio â'r teulu, dywedai Gwraig y tŷ wrtho, yr hon a orweddai yn gystuddiedig, Richard Jones bach, dyma у lle yr wyf fi yn gorwedd er's misoedd yn methu mynd i'r Capel; y mae arnaf hiraeth yn fy nghalon am foddion gras. Byddaf bron a digaloni weithiau wrth weled pawb o'r teulu yn gallu myned yno ond myfi. . . Gadewch i mi glywed beth oedd genych heno. Purion, meddai yntau, mi affi droth ychydig o'r materion jutht yn union. Ar ol swperu, dygid y Beibl i'r bwrdd. Yna tröai at y Salm yn yr hon yr oedd ei destun, sef Salm 73; ac wedi dyfod hyd at y ddegfed adnod, dywedai, Dyma oedd geiriau'r testun heno—"Am hyny y dychwel ei bobl ef yma, ac y gwesgir iddynt ddwfr phïol lawn." Sonia y Salmydd am lwyddiant dynion bydol annuwiol. Ond y mae'r adnod hon yn cyfeiddio at ddylanwad llwyddiant yr annuwiol ar y duwiolion, a'r tuedd drwg sy mewn rhai crefyddwyr i ogwyddo i'w llwybrau, drwy ymestyn yn ormodol am y byd. Nith gallaf gael gwell ethboniad ar y geiriau nac wel yna. Yr oeddym yn gwneyd tri o thylwadau o ar y tethtun—yn gyntaf, Pam y gelwir y duwiolion "ei bobl ef." Maent wedi eu prynu a'u gwaredu ganddo; maent wedi ymgyflwyno iddo; yn dal cymundeb ag ef, ac yn rhoddi gogoniant iddo. Wedy'n yr oeddym yn thylwi, yn ail, ar y fan lle y mae ei bobl ef yn myned i geisio cael cythur—"Dychwel ei bobl ef yma" I'r man lle y mae pobl y byd yn myned ! at gyfoeth y byd; at ddigrifwch a phleserau y byd; at anrhydedd y byd. Ar ol hyny yr oeddym yn thylwi, yn drydydd, ar yr