Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn oeddynt yn ei gael am fyned yno, "gwethgir idd ynt ddwfr phïol lawn." Beth a gawthant yno? a gawthant yr hyn oeddynt yn ei ddymuno? Naddo, mae'n ddiau. Ond cawsant eu gwala a'u gweddill o ofidiau! "gwesgir iddynt ddwfr phïol lawn." Mae Duw yn rhoi gofid iddynt er mwyn eu diddyfnu oddi wrth y byd. Cawthant ofidiau wrth fethur, "dwfr phiol lawn." Cawthant lawer o ofidiau,—dwfr phïol lawn. Cawthant hyn yn raddol, fel y gallent ddal heb eu lladd—"gwasgu iddynt ddwfr phïol lawn." Cawthant yn ddiammau yn ol eu haeddiant. Wrth feddwl am y pethau hyn, y mae o bwyth mawr i edrych a ydym o nifer " ei bobl ef." Pobl pwy ydym? Mae cofio dyben Duw yn ei geryddon ar ei bobl yn help iddynt i ymdawelu yn amyneddgar dan ei law; ac er eu calondid, ni phery yfed o'r phïolau ddim yn hir "i'w bobl ef."—ond pery eu cythuron byth. O drueni yr annuwiol ! hwy a yfant o phïolau digofaint Duw byth. Dyna ychydig bach o'r pethau a ddywedwyd heno ar y testun hwn. Ar ol hyn cyflwynai ei hun a'r teulu trwy weddi i ofal yr Arglwydd. Bu yn fendithiol i gysuro ac adeiladu llawer o'r Saint trwy ei sylwadau yn y modd hwn ar Air Duw mewn teuluoedd. Mae'n wir y cymerai ambell fachgen a geneth ieuanc ef yn ys gafn, gan sylwi yn gellwerus ar ei ddull gwahanol i ereill, yn enwedig yn anestwythder ei dafod i seinio rhai geiriau yn groyw, ond mwynhäai dynion crefyddol wir lesiant bob amser oddiwrth ei wasanaeth crefyddol, pa un bynag ai yn gyhoeddus ai yn deuluaidd. Byddai yn hynod o ofalus am dano ei hun bob amser rhag cael gwely llaith. Ac os cawsai yr awgrymiad lleiaf na buasai neb yn cysgu yn ngwely y gwr dyeithr er's tro mawr, estynai ei fŷs at ferch y ty,