Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a dywedai wrthi, "Dôth di i hwnw eneth, cymedd di dy thiawnth." Dygodd ei hun rai gweithiau i brofedgaeth trwy wneuthur felly; ond nid i gymaint profedigaeth â'r rhai hyny a gollasant eu bywyd trwy y darfodedigaeth buan a achoswyd o ddiffyg gofal yn nghylch yr orweddfa laith. Pe buasai ei ofal ef am godi yn brydlawn o'i wely gymaint ag oedd ei ofal am gael un diberygl i orwedd ynddo, canmolasid ef yn fwy. Teithiai fel hyn o fan i fan am wythnosau, gan bregethu y nos yn unig, oddieithr y Sabbathau. Ni byddai ei daith yn ystod y dydd fawr hwy yn gyffredin nac oedd o ffordd o Bethlehem Juda i Jerusalem, fel na byddai nemawr byth yn gofyn iddo, "A ddaethoch chwi o bell heddyw, Richard Jones?" Er hyny yr oedd yn llawen gan bawb ei weled bob amser; ac eithaf tegwch â'i gymeriad yw mynegu yma yr arferai lawer o ddoethineb trwy ddewis amryw o leoedd i letya yn mhob ardal lle yr elai, fel nad arhosai yn hir yn yr un man, oddieithr mewn rhyw fanau neillduol, lle y gwyddai ef fod iddo groesaw calon. Ni byddai yn euog o ymddwyn yn ei lettyai mewn modd a barai i'r teulu gau eu drysau rhag ei groesawu ef na neb arall o weision Crist mwyach; ond bu yn hytrach yn offerynol i agor drysau newyddion mewn rhai ardaloedd, y rhai ydynt yn agored hyd heddyw. Gwyddis am un gymydogaeth lle y rhoddai ei gyhoeddiad i bregethu ynddi, am yr hon y dywedid wrtho nad oedd yno gymaint ag un teulu a roddai letty am noswaith i bregethwr, ac mai eithaf digalon oedd iddo fyned yno. "Mi tyddeia i nhw" (ebe yntau) "mi fentra i yno am unwaith beth bynag." Ac yno yr aeth efe at ei gyhoeddiad, lle yr ydoedd amryw wedi ymgasglu yn nghyd i wrandaw ar Richard Jones, Llwyngwril hwnw. Mater