Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei bregeth oedd Darostyngiad yr Arglwydd Iesu Grist. Ac wrth ymdrin â'r pwnc, daeth at ei dlodi ef, a sylwai ar yr adnod hono—Y mae ffaeau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. " Wel yma, gyfeillion bach, yr oedd ar ein Meithdar mawr ni, nid oedd gan ddo ef gartref o'r eiddo ei hun, ac nid yn mhob man a phob amther y cai efe lodgin am noswaith. Ond nid felly y mae ar ei weithion ef. Pan y b'o ni yn myned o fan i fan i bregethu, ni bydd raid i ni ofni am lodgin, byddwn yn ddigon thicr o honi yn mhob ardal; bydd yn yr odfa amddyw wragedd tirion yn barod am y cyntaf i fyned at y pregethwr ar ol iddo ddarfod, i ofyn iddo, Ddowch chwi acw heno gyda ni, wr diarth, cewch le wel y mae o, a chroetho calon." Erbyn i'r hen gyfaill ddybenu ei wasanaeth, yr oedd yno ddwy neu dair o wragedd yn nesâu ato am y cyntaf i'w wahodd i'w tai, yr hyn oedd yn gwirioneddu yr hyn a bregethasai.

Ar ei draed y teithiai ar y cyntaf, ond meddyliodd bob yn ychydig am gael anifail, nid yn gymaint gyda bwriad i bregethu yn amlach, na chyflymu dros fwy o dir, ond i arbed ei gorff, rhag nychu ei hun yn gynt na phryd. Nid yn fuan yr anghofir yr hen frawd pan y cychwynai i'w daith. Yr oedd yn drugaredd i'r anifail druan na byddai raid iddo deithio llawer yn nghorff diwrnod, gan fod ei faich yn drwm, ac yntau yn egwan. Nid oedd y cyfnewidiad hwn yn sefyllfa deithiol R. Jones yn ei wneuthur nemawr gwell mewn un ystyr. Cynghorid ef i gymeryd y traed drachefn yn lle yr anifail; felly y gwnaeth am ryw dymor. Ond teimlodd awydd eilwaith i feddiannu anifail i'w gario. Yr oedd ei ofal am dano ei hun gymaint fel