Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na feiddiai brynu march ieuanc a bywiog, rhag iddo ruso a thaflu ei farchog, a pheryglu ei fywyd; ac felly wrth osgoi hyny, elai yn rhy bell i'r ochr arall yn ei ddewisiad o anifail rhy hen, rhy deneu, a rhy drwstan, fel y peryglai ei esgyrn yn llawn cymaint y naill ffordd a'r llall. Edrychwch arno, dacw fo wrth ddrws ei lety yn cael ei osod ar gefn ei anifail i gychwyn i'w daith. Wele un yn dal gafael yn y ffrwyn, a'r llall yn ymaflyd yn yr wrthafl. Dywedai wrth y naill, "Dal y dafal rhag iddi thymud dim; " ac wrth y llall, Cydia'n y thound," a fynu ag ef. Byddai cymysg o deimladau, gan ei gyfeillion yn wyneb yr olygfa hon; sef tosturi dros yr anifail teneu, coesgam, cymalog; a gradd o gywilydd wrth glywed plant yn gwaeddi, "Dyma hen geffyl hyll," yn nghydag ofn mai yn y ffôs y byddai gorweddfa y ddau cyn y cyrhaeddent ben eu taith. Ac yn wir, os dywedir y cwbl, cafodd yr hen frawd ambell godwm; ond fel y dygwyddai yr hap, yr hen gaseg yn gyffredin fyddai yr isaf; ac yn yr amgylchiad hwnw, dedwydd fyddai fod ei chymalau mor anystwyth, oblegid ca'i yr hen gyfaill amser i ymryddhau oddiwrthi cyn y gallai y druanes wingo dim. Dygwyddodd amgylchiad cyffelyb i hyn yn ardal Llanuwchllyn. Yr oedd R. J. bron ar ben ei daith, gan ymddyddan yn ddifyrus â rhyw gyfaill a gydymdeithiai ag ef ar y pryd; ac yn nghanol y chwedl, dyma'r hen gaseg i lawr, a'i marchog corffol bendramwnwgl dros i ei phen, gryn ddwy lâth neu dair oddiwrthi, yn gwaeddi am ei fywyd. Ond fel yr oedd y drugaredd yn bod, cafodd y ddau ymdreiglo y tro hwnw mewn gwely esmwyth o eira; a chafodd y pregethwr ddigon o amser i ddyfod ato ei hun o'i gyffro, ac i ymlonyddu cyn myned i'r addoldy. Nid pethau bychain a'i rhwystrent