Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef un amser i fyned yn mlaen at ei gyhoeddiadau. Eithr yr oedd y fath drafferth a helbul gyda'i hen anifail, fel prin y byddai gan y rhai a gymerent ei ofal ddigon o amynedd i beidio ei sènu o'i herwydd, nes o'r diwedd y penderfynodd R. J. deithio o hyny allan ar ei draed.

Anfynych y methodd a do'd at ei gyhoeddiad mewn pryd yn ei oes; ond yr oedd ganddo ddiwrnod cyfan o'i flaen i ddyfod ato, oddieithr ar y Sabbathau. Digwyddodd iddo unwaith fod ryw gymaint ar ôl yn Nolgellau, (ar y Sabbath mae'n debygol.) yr oedd yr addoliad wedi dechreu cyn iddo fyned i mewn i'r addoldy. Fel amddiffyniad diniwaid drosto ei hun, dywedai ar ol y cyfarfod dan wenu, " Pwnc yn Rhyd, y-main, profiad yn y Brithdir, a meindiwch yr amther yn Nolgellau." Chwareu têg i'r cyfeillion yn Nolgellau, canys nid rhinwedd bychan yw bod yn fanwl gydag amser addoliad; byddai yn dda i lawer o gynnulleidfä oedd ddilyn eu hesampl yn hyn.

Pen. VI.
PARHAD O HELYNTION TEITHIOL R. J. A'I LAFUR GARTREF RHWNG EI DEITHIAU.

Digwyddodd iddo weithiau yn ei oes fyned ar ei hynt yn llawn digon agos ganddo i gyffiniau y Saeson, gan deimlo yr anfanteision oedd iddo oddiwrth anadnabyddiaeth o'r iaith saesonaeg. Ceir engraifft o hyn yn yr hanesyn a ganlyn, yr hwn a dderbyniwyd oddi wrth Mr. Thomas o Benarth. " Arferai Richard Jones ddyfod i bregethu yn flynyddol i Benarth, Jerusalem, &c. ac yr oedd pawb yn hoffi ei wrandaw. Yr oedd y Gweinidog yn y flwyddyn 1844, yn llettya mewn tyddyn hyfryd o'r enw Brynelan, hen gartref