Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn hynod o effeithiol. Dywedai fod ei sefyllfa ef yn dra gwahanol i'r eiddo Elias, ond fod ei destun yn briodol a chymwys iawn i'r amgylchiadau y dygid ef iddynt ar y pryd hwn. Yna efe a roddai fyr hanes dechreuad yr achos ymhlith yr Annibynwyr yn yr ar daloedd cyfagos, ac yn enwedig yn ei ardal ei hun. "Ond", ebe efe, "pa le y mae fy hen gyfeillion oedd yn cydgychwyn â mi ar y daith grefyddol? Ydyn 'nhw wedi ngiadel i gyd? " A chan droi ei lygaid dyfrllyd at yr arferasai ei hen gyfaill trancedig eistedd, dywed ai dan wylo, Ydyw ef yna? Nac ydyw, nac ydyw, mae yntau hefyd wedi myned,

"Gan fy nghadael yn ymddifad
Wel peddeddin wrtho'i hun."

"A mi fy hunan a adawyd, a cheithio y maent fy einioeth inau." Ond medd rhywun, pwy sydd yn ceithio dy einioeth di? A ydyw Victoddia yn ceithio dy einioeth di, fel yr oedd Jethebel yn ceithio einioeth Eliath? Nac ydyw, nac ydyw, 'dyw ein brenhineth diddion ni ddim i'w gothod longthide â'dd hen Jethe bel hono, nid yw hi yn ceithio einioeth neb oblegid ei grefydd; caiff pawb yn ein gwlad ni grefydda wel y myno heb beddyglu ei einioeth. Pwy ynte thydd yn ceithio dy einioeth? Ai y gyfddaith wladol? A wnêst ti ryw ddrwg thy'n galw am i'th einioeth fod yn ythglyfaeth iddi? Naddo trwy drugaredd, rwyf yn ddigon thâff rhagddi." Ar ol iddo grybwyll amryw bethau nad oeddynt yn ceisio ei einioes ef, cyfeiriai wedi'n at genhadon angau, y rhai oeddynt fel cynifer o filwyr iddo yn chwarau am ei einioes o bryd i bryd. " Ac yn ddiweddar," ebe efe, " daeth un o honynt ataf, ac a'm taddawodd yn fy mhen, neth oeddwn mewn llethmair, gan geithio fy einioeth. Ond meddai yr Arglwydd