Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrtho, Tha' draw, tha' draw, mae'u rhy fuan eto, chei di mo'i einioeth yddwan, mae hono yn fy llaw i. Ond, gyfeillion, mae'r amther yn ymyl y caiff angau gomandth gan fy Arglwydd i daddo ei eddgyd maddwol. Ond diolch ! y mae gan y Crithtion "fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw." A chan annog y gynnulleidfa mewn modd difrifol i ymofyn am hwnw cyn y darfyddai eu heinioes, terfynodd ei bregeth.

Teimlai yn ddwys bob amser dros lwyddiant achos yr Arglwydd yn gartrefol a thramor, yn enwedig yn misoedd diweddaf'ei oes. Yn ngwresogrwydd ei weddiau, llywodraethid ei sêl yn gyffredin gan wybodaeth a doethineb. Ond un tro yn Llwyngwril ar foreu Sab bath, pan oedd efe yn gweddio dros Achos Crist tu draw i'r moroedd mewn gwledydd pellenig, ac yn enwedig yn Madagasgar, tywalltai ei galon mewn erfyniau taerion dros y brodyr a'r chwiorydd oeddynt yn dyoddef yno anfanteision ac erledigaeth. Yna dug achos yr hen frenhines ger bron Duw : ac mewn eiddigedd duwiol dros ei ogoniant, a thosturi cyffrous dros ei gyfeillion gorthrymedig, ac o gasineb calon at greulonedd ei Mawrhydi, dywedodd, " Ydd ydym yn dymuno arnat roddi calon newydd iddi, Arglwydd; dyro galon newydd i hen frenhineth annuwiol a chyddeulawn Madagathgadd! OND—oth bydd hi ar ffordd dy achoth di i fyned yn mlaen, i'r fflamia a hi!! I'r fflam ia a hi!! Nid oedd yno neb o'r cyfeillion a feiddient ddweyd Amen wrth y fath ddeisyfiad â hwn, ond yr oedd pawb yn ddistaw fel y bedd, a bron a chwysu gan arswyd a dychryn. Hwyrach y buasai meibion Zebedëus yn angerdd eu sêl yn gwaeddi gydag ef, Arglwydd a fyni di ddywedyd o honom am ddyfod tan i lawr o'r nef a'i difa hi? "A phe digwyddasai i'r