Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwog genhadwr Eliot fod ar y pryd yn nghapel Llwyngwril, a deall deisyfiad yr hen frawd, fe allai mai cryn orchest fuasai iddo yntau allu ymattal, yn mhoethder ei sel dros achos ei Dduw, rhag gwaeddi yn uwch na'r tri, " Amen, Lord, kill her!!" Ar ol diweddiad y moddion, aeth rhai o'r cyfeillion at Richard Jones gan ofyn iddo mewn syndod, paham y gweddïasai mor arswydus dros frenhines Madagascar? Ac yn mha le yn yr Ysgrythyr y cawsai ef sail i ddeisyfu ei herchyll gospedigaeth felly? Yntau yn ymwybodol fod ei sêl y tro hwn wedi tori dros ei derfynau priodol, ni chynygiai ymresymu â hwynt ar y mater, ond gan brysur hwylio tuag adref, a ddywedodd wrthynt, " Mae yno ddifai lle i'w thiort hi, oeth yn widdionedd inau. Mae llawedd o'i gwell hi wedi myned yno." Os nad yw yr hen frenhines wedi myned yno, gobeithir gan filoedd y, rhydd yr Arglwydd "galon newydd iddi," fel y gwasanaetho hi ef mewn ofn, ac yr ymlawenhäo mewn dychryn, rhag iddo ddigio a'i dyfetha o'r ffordd pan gyneuo ei lîd ef, ie, ond ychydig."

Cynlluniai ei daith drachefn, ac anfonai ei gyhoeddiadau, ac elai ymaith ar y dydd penodedig fel arferol; ac ar ol ei gychwyniad, dywedai ei gymydogion,"Dacw Richard Jones yn myned eto, ni welwn mo hono am chwarter blwyddyn."

Un o rinweddau disglaer Richard Jones, fel pregethwr teithiol, oedd ei ofal rhag ymyryd â materion rhai eraill, a rhag cludo chwedlau o'r naill fan i'r llall. Nid gorchest fechan oedd hyn; ond gellir dweyd am dano ef yn ystod yr holl flynyddoedd y bu yn teithio, na chyhuddid ef o fod yn chwedleugar ac yn gludydd newyddion drwg ac anghysurus am weinidogion, eglwysi, na theuluoedd. Pan y dygwyddai iddo eistedd