Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weithiau yn mysg y rhai a geisient hela rhywbeth o'i ben ef, medrai yr hen gyfaill droi y chwedl heibio, a'i gollwng yr un ffordd a mŵg ei bibell; îe, mynych y clybuwyd ef yn amddiffyn gweinidogion pan y clywai rywrai yn eu gwarthruddo yn eu habsenoldeb.

Ac nid llai disglaer oedd ei rinwedd hwn hefyd yn ei gartref ei hun; oblegid y mae y Gweinidogion parchus a fuont yn llafurio yn ei gymydogaethau yn dystion byw o wirionedd hyn. Ac at y tystiolaethau a gafwyd eisoes ganddynt, cymerir y cyfle presenol i chwanegu eiddo Mr. Griffiths, gynt o Lanegryn, ond yn awr o America. "Cefais ef yn gyfaill didwyll, dirodres, a ffyddlawn yn ystod yr amser y bum yn gweinidogaethu yn Llanegryn, Llwyngwril, &c. Cefais ef yn gydymaith yn caru bob amser, ac yn ymddwyn yn ddihoced yn fy absenoldeb fel yn fywyneb. Ni byddai arnaf ofn adrodd fy helyntion iddo, ac ni welais achos yn ystod mwy na thair blynedd ar ddeg, i gelu oddiwrtho fy nhrallodau fel gweinidog. Byddai bob amser yn cefnogi y weinidogaeth gartrefol yn nghyda phob diwygiad."

Yr oedd gan Richard Jones ofal tyner bob amser am fechgyn ieuainc yn dechreu pregethu. Da pe byddai llawer yn y dyddiau presenol yn dilyn ei esampl efyn hyn, yn hytrach na'u difrïo a'u digaloni. Yr oedd ganddo ef gystal barn â neb am gymwysderau angenrheidiol i fod mewn pregethwr; ac ar yr un pryd pan y gwelai ambell un go ganolig yn ei ddechreuad, ni byddai efe boddlawn er dim i daraw hwnw yn ei dalcen yn ebrwydd, heb fynu eithaf prawf yn gyntaf ar alluoedd y cyfryw. Yn y flwyddyn 1824, yr oedd gwr ieuanc, tair ar hugain oed, aelod perthynol i'r eglwys Annibynol yn Nolgellau yr hwn oedd wedi pregethu